Cronfa Loteri Fawr
Arian i Bawb Cymru
Ffordd syml i grwpiau gwirfoddol a chymunedol gael grantiau bach y Loteri Genedlaethol
Mae Arian i Bawb yn ddarparu ffordd gyflym a hwylus i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ddod o hyd i grantiau bach rhwng £500 a £5,000 gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau sydd â’r nod o wella cymunedau lleol a bywydau’r bobl fwyaf anghenus. Mae’r rhaglen yn annog ystod eang o brosiectau cymunedol, iechyd, addysgol ac amgylcheddol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Pawb a’i Le
Yn ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw sy’n annog gweithredu cymunedol cydlynol
Bydd Pawb a’i Le’n ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw gyda’r nod o annog gweithredu cydlynol gan bobl sydd eisiau gwneud eu cymunedau’n lleoedd gwell i fyw. Byddwn yn cefnogi prosiectau lleol a rhanbarthol ar draws Cymru sy’n canolbwyntio ar:
- adfywio cymunedau
- gwella cysylltiadau cymunedol, neu
- wella amgylcheddau, gwasanaethau ac adeiladau cymunedol lleol.
Maint yr ariannu: £5,001 – £1,000,000
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth