Gwirfoddolwyr y Mileniwm (GM)
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm (GM) yn rhan o raglen sy’n gweithredu ar draws y DU i gynorthwyo pobl ifanc i ymrwymo i wirfoddoli am 200 awr yn eu cymuned. Mae’n annog pobl ifanc 14-25 oed i adeiladu ar y sgiliau a’r diddordebau sydd ganddynt eisoes ac i gael profiadau newydd drwy roi o’u hamser i weithgareddau gwirfoddol sy’n werth chweil ac sydd wedi’u trefnu’n dda. Mae eu hymdrechion yn cael eu cydnabod gyda Thystysgrif 50 a 100 awr a Gwobr Ragoriaeth am 200 awr sydd wedi’i llofnodi gan Brif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed…
Pam ddylwn i ddod yn Wirfoddolwr y Mileniwm?
- Mae’n ffordd hwyliog a buddiol o dreulio rhywfaint o’ch amser rhydd.
- Mae’n agor eich llygaid i bethau eraill sy’n digwydd o’ch amgylch.
- Gall eich herio chi, eich barn am bobl eraill, eich gwybodaeth a’ch sgiliau a gall eich helpu i ddatblygu mewn cymaint o ffyrdd.
- Gallwch wneud ffrindiau newydd a gall gwirfoddoli fod yn bwnc trafod gwych gyda’ch ffrindiau eraill.
- Gall hyd yn oed eich helpu i ystyried yr hyn yr hoffech ei wneud yn ddiweddarach yn eich bywyd a rhoi cynnig ar wahanol bethau i weld a ydych yn eu mwynhau.
- Mae hefyd yn edrych yn dda ar eich CV neu os ydych yn ceisio cael lle mewn Coleg neu Brifysgol.
Mae gan Ganolfannau Gwirfoddoli ar hyd a lled Cymru gynghorwyr arbenigol sy’n gallu eich helpu i ddod o hyd i rywbeth heriol a diddorol a rhywbeth y byddwch yn ei fwynhau.
Os ydych chi rhwng 14 a 25 oed ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am hyn plîs cysylltwch â ein Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Ymysg Pobl Ifanc Emma Pugh
Ffôn: 01492 534091 / Ebost: emmapugh@cvsc.org.uk neu volunteering@cvsc.org.uk