Croeso i Gymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC).

Datblygu, cefnogi a hyrwyddo gweithredu gwirfoddol a chymunedol yn Sir Conwy.

 

Newyddion Ymddeoliad - Wendy Jones Prif Swyddog

Fe ddechreuodd Wendy gyda CGGC yn ein dyddiau cynnar iawn ni yn 1999 ac oherwydd ei galluoedd symudodd yn gyflym i rôl Swyddog Cyllid, gan osod y safon yn uchel gyda'n Ffair Gyllidwyr gyntaf.

Yn dilyn bwlch byr yn gweinyddu ac yn asesu cyllid grant WCVA ac Ewrop, dychwelodd i CGGC fel Rheolwr Cyllid, gan gymryd rôl y Prif Swyddog yn 2010 yn y pen draw.

Roedd Wendy felly yn adnabod CGGC tu chwith allan a gwnaeth gyfraniad enfawr at yr ethos a safonau’r gwasanaeth, ymhell cyn ymgymryd â'i rôl arwain. Gan fanteisio ar ei chryfderau, ers hynny mae CGGC wedi dod yn un o’r CGSau sy’n perfformio orau yng Nghymru, gyda phresenoldeb pwerus ac enw da ym maes dosbarthu grantiau. Cyflawniad anhygoel – sy’n cael ei gydnabod ymhell ac agos.

Mae wedi bod yn wir erioed bod Tîm CGGC yn cael ei weld gan bawb fel “teulu” gyda chydweithwyr yn cefnogi ac yn dathlu gyda’i gilydd drwy sawl carreg filltir!

Wendy – fel staff a gwirfoddolwyr, mae ein dyled ni i gyd yn fawr i chi – am eich cyfeillgarwch hael, eich arweiniad a’ch cymhelliant – ond yn bennaf am eich angerdd dros bopeth rydych chi’n ei wneud - rydych chi wir yn ysbrydoliaeth a bydd colled fawr ar eich ôl.

Colled i'r Trydydd Sector ehangach hefyd, nid dim ond yma yng Nghonwy, ond yn rhanbarthol ac yn genedlaethol oherwydd eich holl ddulliau synhwyrol ac ymarferol o weithio sydd wedi bod mor boblogaidd, yn rhyngwladol weithiau hyd yn oed.

Rydyn ni eisiau manteisio ar y cyfle yma i ddymuno cyfnod newydd hir ac iach i chi o R ac R cwbl haeddiannol!

Dymuniadau gorau a diolch o galon i chi gan eich holl Dîm yma yn CGGC!

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397