Sgrybs O Fae Colwyn A Thu Hwnt

Fe wnaeth Mark Clemson, Ysgrifennydd Siambr Fasnach Colwyn, fel sawl aelod arall o’n cymuned ni, wynebu’r her i gynorthwyo gyda phandemig Covid-19 ac, yn benodol, yr angen mae’n debyg am gyfarpar diogelu personol (PPE). Felly lluniodd ddull wedi’i gydlynu a strwythuredig o weithio a ffurfioli’r grŵp “SGRYBS O FAE COLWYN A THU HWNT”, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi sylw i’r broblem – a chafodd ei synnu yn fawr gan ymateb y gymuned!

I ddechrau, roedd y diddordeb yn araf, ond wrth i’r gair ledaenu, o fewn ychydig ddyddiau, roedd ganddo DDAU gydlynydd gwirfoddolwyr rhagorol wrth y llyw - Tracey Touliman a Magwen Davis, a nifer cynyddol o aelodau yn y grŵp, yn codi i fwy na 200 yn gyflym iawn ac yn 295 ar ei uchaf.             

Roedd y gwirfoddolwyr yn cynnwys unigolion sy’n gallu trin peiriannau gwnïo – o lefel sylfaenl i rai hynod fedrus – gydag eraill a allai dorri patrymau, argraffu cynlluniau, dosbarthu defnydd a chasglu’r eitemau gorffenedig. 

Rhoddwyd y gwirfoddolwyr mewn timau, o’r enw Bevan - Nightingale - Enfys - Apollo a Pili Pala, er mwyn helpu i gadw strwythur a gwneud y gwaith cydlynu’n haws.

Erbyn hyn mae gan Mark ddiwydiant bychan yn ei le – gyda phawb yn gwirfoddoli o gartref – gyda’r prif bwrpas o gefnogi’r cais am ddarparu SGRYBS ac eitemau eraill i weithwyr gofal iechyd lleol.

Hyd yma, mae Mark a’i dimau gwirfoddol wedi cwblhau yn agos at 200 o setiau o SGRYBS ac maen nhw wedi eu dosbarthu i amrywiaeth o anghenion a lleoliadau lleol, gan gynnwys y canlynol:

          Scrubs up pile                    Scrubs up group

  • Wardiau Covid Glan Clwyd
  • Meddygfeydd Grŵp Rysseldene, Cadwgan a Gyffin, Meddygon Teulu Tu Allan i Oriau - West End  
  • Gofal Canser i Blant yn y Gymuned                  
  • Cartrefi gofal preswyl lleol amrywiol gan gynnwys Llys Elian a Merton Place  
  • Marks and Spencer ym Mangor – Masgiau Wyneb
  • Meddygfa Bae Cinmel – Masgiau Wyneb        
  • Canolfan Feddygol Gwrych - Abergele – Hetiau a Bagiau

Mae’r gwirfoddolwyr gwych wedi gwneud tua 600 o fagiau SGRYBS, 150+ o fasgiau wyneb/feisors a llawer iawn o Hetiau Theatr. 

Ond ni stopiodd Mark ar ôl cyflawni hyn, ac apeliodd am fusnes lleol i gymryd rhan. Sefydlwyd tudalen gyfrannu er mwyn prynu defnydd ac ati a gyda chefnogaeth o bob rhan o’r gymuned, chwalwyd y targed a osodwyd.

Hefyd fe wnaeth Cyngor Tref Colwyn helpu gyda’r ymdrechion, gan gefnogi prynu defnydd SGRYBS penodol a deunyddiau cysylltiedig, cotwm ac ati.

Meddai Mark “Mae’n dangos bod llawer o ysbryd cymunedol ym Mae Colwyn a’r ardal ehangach gyda’n gwirfoddolwyr ni wedi mynd yr ail filltir.”

     Scrubs up lady                    Scrubs up scrub

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397