Astudiaeth Achos Ray Barnett

Roedd Ray Barnett yn wR Barnett Wrysgan Copyirfoddolwr eisoes gyda swyddogaethau mewn gwahanol sefydliadau elusennol a chymunedol gan gynnwys Ambiwlans Sant Ioan, Cymdeithas y Sgowtiaid a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn pandemig Covid-19. Daeth at CGGC i weld a oedd unrhyw gyfleoedd eraill iddo gynorthwyo'r gymuned leol gan fod llawer o'i swyddogaethau ar y pryd wedi'u gohirio, neu'n newid oherwydd gohirio gweithgareddau 'arferol'.

Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys y canlynol –R Barnett Union Rock at sunset

  • Gwneud cais a sicrhau grant VSEF o £1000 ar gyfer cyfarpar diogelu personol i 10 grŵp lleol o sgowtiaid.
  • Uwchsgilio yn ei rôl wirfoddol gydag Ambiwlans Sant Ioan i'w alluogi i fod yn aelod o griw ambiwlans gan alluogi ei ddefnyddio i drosglwyddo cleifion Covid-19 positif o ysbytai'r GIG i’r ysbytai Eos. Roedd hyn er mwyn rhyddhau criwiau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) ar gyfer eu galwadau brys.
  • Gwirfoddoli parhaus gyda'r Sgowtiaid, ac mae wedi bod yn allweddol mewn ehangu cyfleoedd hyfforddi rhithwir, yn ogystal ag arweiniad a dogfennau i ganiatáu i unedau sgowtiaid gynllunio i ailddechrau gweithgareddau.
  • Cefnogi 7 o bobl gyda 35 o dripiau’n darparu cyflenwadau a meddyginiaeth hanfodol hyd at ddiwedd mis Gorffennaf 2020.
  • Gwirfoddolwr croesawu ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae Ray yn aelod gweithgar o'r gymuned wirfoddoli leol ac mae wedi defnyddio'r sefyllfa bresennol i wella ei sgiliau mewn sawl rôl wirfoddol, ond hefyd i roi cyfarwyddyd a gweithdrefnau ar waith i gefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau eraill i'w galluogi i ailddechrau eu gweithgareddau mewn ffordd ddiogel.

Os ydych chi'n teimlo y gallech chi helpu eraill a gwneud gwahaniaeth yn ystod y cyfnod anodd yma, fel Ray, cysylltwch â ni yn Nhîm Gwirfoddoli CGGC ar 01492 534091 neu e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

R Barnett London Crag 2019

R Barnett Instruction

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397