Hosbis Plant Tŷ Gobaith

Cefnogi teuluoedd sydd â babanod â chyflyrau cymhleth neu gyflyrau sy'n bygwth bywyd

Bydd £50,000 o Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr dros ddwy flynedd yn cyllido 0.5 o swydd Nyrs Gyswllt Newyddenedigol arbenigol yn Hosbis Plant Tŷ Gobaith.  Mae Tŷ Gobaith wedi chwilio am gyllid cyfatebol ychwanegol i wneud hon yn swydd amser llawn ac ymestyn y gwasanaeth hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i ffiniau Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr.

"Ar ran pawb yn nhîm Hosbis Plant Tŷ Gobaith, rydw i'n ysgrifennu i ddweud diolch o galon am eich grant diweddar.

Yn ystod y cyfnod yma o lawer o ansicrwydd, mae'n gysur mawr gwybod bod sefydliadau, fel eich un chi, yn gallu ein helpu ni gyda’n hymdrechion parhaus i sicrhau bod y plant rydym yn eu cefnogi, sydd â chyflyrau sy'n bygwth bywyd, yn cael y lefel orau o ofal y gallwn ei rhoi iddynt.

Mae eich grant brys wedi ein galluogi i brynu'r offer hanfodol sydd ei angen i reoli symptomau’r plant yma, ac mae wedi ein helpu ni i wella ansawdd eu bywyd, hyd yn oed ar ddiwedd eu hoes.

Roedd eich grant o £50,000 i gyllido Swydd Nyrs Newyddenedigol benodol ar gyfer yr ardal sy’n elwa o Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn eithriadol hael. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddem wedi bod mewn sefyllfa i ymestyn y gwasanaeth yma y mae ei wir angen yng ngogledd Cymru, yn enwedig yng ngoleuni pandemig Covid-19 a'i effaith ar ein gallu i godi arian.

Rydych chi wedi ei gwneud yn bosib i ni barhau â'n gwaith hanfodol yn ystod yr amser anodd yma.

Diolch yn fawr i chi am gofio am ein babanod, ein plant a'n teuluoedd. Ni fyddwn byth yn anghofio eich caredigrwydd."

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397