All Afloat

Cefnogi pobl ifanc drwy hwylio

Mae All Afloat yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gael mynediad i hwylio, cyfleoedd na fyddent yn eu cael fel arall efallai. Maent yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac yn addysgu sgiliau bywyd hanfodol. Galluogodd £7,120 o Gronfa Fferm Wynt Gwynt y Môr i'r prosiect brynu pontŵn a hoist anabledd i alluogi morwyr anabl i gael mynediad i gychod, sy'n agor eu gweithgareddau i fwy fyth o bobl.

Hefyd mae All Afloat wedi bod yn gweithio gyda phlant sydd â llawer o anghenion cymhleth yn gymdeithasol ac yn addysgol, er enghraifft, ASD, problemau gorbryder, PTSD, problemau ymddygiad, dyslecsia a dyspracsia. Mae rhai o'r plant wedi bod yn ymwneud â throseddau cyllyll y tu allan i'r prosiect. Mae rhai o'u plant mwyaf rheolaidd mewn uned arbennig yn yr ysgol ar gyfer y rhai ag ymddygiad heriol ac mae llawer yn ei chael yn anodd ymgysylltu ag unrhyw beth.

Mae caredigrwydd, amynedd a chefnogaeth hyfforddwyr, ymgysylltiad y prosiect â'r gymuned ehangach, gan gynnwys yr heddlu lleol, y cyffro, y rhyddid a'r pleser o fod ar y dŵr a chysondeb y sesiynau wythnosol rheolaidd wedi cael effaith sy'n newid bywydau. Maent wedi gweld ymddygiad yn newid yn ddramatig er gwell, presenoldeb yn yr ysgol yn gwella a phobl ifanc yn dysgu sut i ymgysylltu'n fwy cadarnhaol â phobl eraill ac yn dechrau elwa o rai o'r cyfleoedd y dylai pob plentyn eu cael. Mae'r plant yn siarad amdano'n ddi-stop ac yn ymddwyn yn well yn y dosbarth os ydynt yn gwybod y gallai'r cyfle i fynd i hwylio gael ei dynnu oddi wrthynt.

Daeth un plentyn i'r cynllun gyda phroblemau gorbryder ac roedd rhaid iddynt weithio'n ofalus ac yn araf i roi cyfle i'r plentyn ymddiried ym mhawb a gwneud hynny yn ei hamser ei hun. Dywedodd mam y plentyn, "mae fy mhlentyn yn cael cymorth gan dîm o amgylch y Teulu a'r Cydlynydd Lles Anabledd, rwy'n gobeithio nad oes ots gennych chi ond fe ddywedais i wrthyn nhw pa mor anhygoel oeddech chi wedi bod yn cefnogi a pha mor bositif mae'r profiad wedi bod."

Yn seiliedig ar lwyddiant y fenter hon mae All Afloat wedi mynd ymlaen i sicrhau £7,008 pellach o gyllid gan Gronfa Fferm Wynt Gwynt y Môr i gyflwyno prosiect tebyg yn Llandudno.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397