Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr

Ydych chi’n falch o’r ffordd yr ydych yn trin eich gwirfoddolwyr? Fyddech chi’n dymuno i’ch arferion da gael eu cydnabod? Fyddech chi’n hoffi gwiriad o’ch gweithdrefnau ar gyfer gwirfoddolwyr? Yna ceisiwch am Farc Ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae’r Dyfarniad yn cydnabod ymrwymiad mudiadau i wirfoddoli o’r safon uchaf ar draws y DG. Mae’r asesiad yn rhoi sylw i 4 maes;

  • Cynllunio Cyfraniad Gwirfoddolwyr
  • Recriwtio Gwirfoddolwyr
  • Dethol a Chydweddu Gwirfoddolwyr
  • Chefnogi a Chadw Gwirfoddolwyr

Mae defnyddiau arweiniol, gwybodaeth a chyngor ar gael ar wefan IiV, yn ogystal ag aseswr penodedig. Cofiwch, bydd meddu ar y Dyfarniad yn arwydd i gyllidwyr posib, bod gennych fudiad sy’n cael ei redeg mewn modd proffesiynol ac eich bod o ddifri ynghylch cyfraniad gwirfoddolwyr. 

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) Essentials

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) – teclyn newydd am ddim i helpu sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael y profiad gorau posibl

Ar draws y DU, mae teclyn newydd am ddim ar gael er mwyn helpu i sicrhau fod eich gwirfoddolwyr yn cael y profiad gorau posibl ac yn llwyddo i wneud y gwahaniaeth mwyaf i’r achos. Datblygwyd IiV Essentials gan wirfoddolwyr a’r staff sy’n eu cefnogi nhw ledled y DU.

Ceir mwy o wybodaeth yma: https://knowhow.ncvo.org.uk/tools-resources/investing-in-volunteers-iiv-essentials

 

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397