Hoffai bawb o Dîm Gwirfoddoli CGGC ddiolch yn fawr iawn i bob gwirfoddolwr yn ardal Conwy. Yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd, mae pobl o bob cefndir wedi rhoi o’u hamser i wirfoddoli a gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl a'u cymunedau.
Yn aml iawn, nid yw cyfraniad gwirfoddolwyr yn cael ei weld na'i gydnabod, dim ond drwy effaith anhygoel eu gwaith gwirfoddol y mae posib ei weld. Fodd bynnag, mae pandemig y coronafeirws wedi codi proffil gwirfoddoli yn fwy nag erioed, ac mae mwy o bobl, yn briodol felly, yn ymwybodol o'r cyfraniad aruthrol sy'n cael ei wneud bob dydd gan ein gwirfoddolwyr gwych.
Gweithredu Cymunedol Abergele
Mae Donna Jones, CGGC, wedi bod yn cefnogi Gweithredu Cymunedol Abergele gan eu bod wedi derbyn Grant Dan Arweiniad Ieuenctid yn flaenorol ac roedd yn fraint i Donna gyflwyno Tystysgrif Wythnos Gwirfoddolwyr CGGC iddynt i gydnabod yr holl weithredoedd gwirfoddoli sylweddol sydd wedi’u cwblhau.
Blind Veterans UK
Fe wnaeth Ceri Jones, CGGC, gyfarfod â rhai o wirfoddolwyr garddio Blind Veterans ac roedd yn fraint cyflwyno Tystysgrif Wythnos Gwirfoddolwyr CGGC iddynt i gydnabod eu hymdrechion gwirfoddoli.
CAIS Cyf.
Alun Thomas yw’r Prif Weithredwr newydd ac roedd yn hyfryd ei gyfarfod a hefyd gwirfoddolwyr CAIS a ymwelodd â’u Prif Swyddfa ym Mae Colwyn. Cawsant Dystysgrif Wythnos Gwirfoddolwyr CGGC i gydnabod eu holl ymdrechion gwirfoddoli.
Creu Menter
Fe wnaeth Ceri Jones, CGGC, gyfarfod â Richard Chance yn Swyddfeydd Creu Menter ym Mochdre i gyflwyno Tystysgrif Wythnos Gwirfoddolwyr CGGC i holl Wirfoddolwyr Creu Menter, i gydnabod eu hymdrechion gwirfoddoli.
Crest Co-operative
Aeth Ceri Jones CGGC ar ymweliad â swyddfeydd CREST yng Nghyffordd Llandudno i gyflwyno Tystysgrif Wythnos Gwirfoddolwyr CGGC i holl Wirfoddolwyr CREST. Cyflwynodd Ceri y dystysgrif i Steve Pugh.
DeafBlind UK
Roedd yn ddiwrnod glawog pan gyflwynodd Ceri a Donna o CGGC Dystysgrif Wythnos Gwirfoddolwyr CGGC i Mike Wycherley ar gyfer holl wirfoddolwyr DeafBlind UK. Derbyniodd y sefydliad gyllid gan Gwynt y Môr a gallwch weld y tyrbinau gwynt yn y cefndir.
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG