Rydym Angen Aelodau I Banel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid

Mae CVSC yn edrych i recriwtio pobl ifanc i wirfoddoli a dod yn rhan o'i banel grantiau dan arweiniad pobl ifanc.

Fel aelod o'r Panel, byddwch yn ymuno â grŵp bach o wneuthurwyr grantiau ifanc rhwng 14 a 25 oed, yn gyfrifol am asesu ceisiadau grant a arweinir ac a gyflawnir gan bobl ifanc gan amryw o brosiectau gwirfoddoliyng Nghonwy. Byddwch yn asesu ac yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau, gan ddyfarnu cyllid i'r grwpiau hynny mewn angen.

Mae bod yn Aelod o'r Panel yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau ymhellach, gwella'ch CV, cwrdd â phobl newydd, cynyddu eich hyder, gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau yng Nghonwy a chael hwyl!

Bydd angen y sgiliau canlynol arnoch:

  • cyfathrebu da
  • gwneud penderfyniadau
  • gweithio mewn tîm

Cewch gefnogaeth lawn yn eich rôl, gyda hyfforddiant yn cael ei gynnig i'ch helpu i ddeall y grant a'ch rôl yn llawn (gellir cyflawni hyn ar lein yn unol â gweithdrefnau diogel).

Mae'r Panel fel arfer yn cwrdd rhwng 3 i 6 gwaith y flwyddyn i wneud penderfyniadau am y cyllid, a diweddariadau/ hyfforddiant, gellid gwneud hyn ar lein ar hyn o bryd. Gallwch hefyd ymweld â'r prosiectau a ariennir gennym ni a chynnal cyfweliadau/ ysgrifennu astudiaethau achos neu flogiau os oes gennych ddiddordeb. Talir costau teithio hefyd.

Gwahoddir ymgeiswyr am sgwrs anffurfiol i sicrhau bod y cyfle yn iawn i chi.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397