Hyfforddiant Diogelu Ar-lein Newydd wedi'i lansio gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Wedi'i lansio fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021, mae'r modiwl e-ddysgu wedi'i anelu'n bennaf at y rhai sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n edrych i weithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn ogystal ag ym maes iechyd, y gwasanaethau brys a chynghorau lleol.
Bydd y modiwl hyfforddiant dwyieithog newydd yn galluogi pawb i wneud y canlynol:
- esbonio'r term 'diogelu'
- cydnabod camdriniaeth neu'r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
- gwybod pa gamau i'w cymryd os ydyn nhw'n dyst neu'n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw'n cael eu cam-drin
- dangos dealltwriaeth sylfaenol o'r deddfau sy'n ymwneud â diogelu
- cydnabod bod dyletswydd arnyn nhw i riportio camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys 13 adran ac mae'n cynnwys cwestiynau senario i helpu defnyddwyr i adeiladu dealltwriaeth ymarferol o ddiogelu a pha gamau i'w cymryd os credan nhw y gallai rhywun fod yn agored i niwed.
Mwy o wybodaeth ar gael yma.