Academi’r Royal Cambrian / Prosiect Celf Arbennig Conwy Connect   

Yn dilyn prosiect celf llwyddiannus a ariannwyd gan Gwynt y Môr yn 2019, cysylltodd Royal Cambrian â Gwynt y Môr am ail rownd o gyllid i barhau â’r Prosiect Celf mewn partneriaeth â Conwy Connect oherwydd y galw a llwyddiant y prosiect cyntaf.

Arweiniwyd y prosiect gan Academi’r Royal Cambrian a’i reoli gan Nadine Carter-Smith a ddatblygodd a rheolodd y prosiect yn ei flwyddyn gyntaf. Parhaodd Academi’r Royal Cambrian (RCA) i weithio gyda Conwy Connect a Chelfyddydau Anabledd Cymru (DAC) i ddatblygu’r partneriaethau hyn ymhellach. Cynhaliwyd gweithdai ar gyfer aelodau Conwy Connect, eu teuluoedd a'u gofalwyr a datblygwyd 20 o weithdai celf yn ystod y flwyddyn.

Nod prosiect Conwy Connect / RCA oedd gwneud celf yn hygyrch i aelodau o’n cymuned nad ydynt fel arfer yn teimlo y gallant ymweld â’r oriel. Roedd gan bob un o'r cyfranogwyr anghenion corfforol gwahanol iawn, mae'r fenyw yn yr astudiaeth achos hon, Roisin, yn ddall. Roedd yn hanfodol ein bod yn creu gweithgareddau y gallai'r holl gyfranogwyr gymryd rhan lawn ynddynt a'u mwynhau gartref.

Fe wnaeth RCA ystyried gohirio’r prosiect nes i gyfyngiadau Covid gael eu codi gan fod y ffocws wedi bod ar gael unigolion i mewn i’r oriel, ond yn y pen draw, ar ôl siarad â’r cyfranogwyr a’u teuluoedd, fe wnaethant sylweddoli bod y prosiect yn bwysicach nag erioed. Roedd pob un o'r cyfranogwyr yn ynysig iawn ac yn methu cael mynediad at y cymorth yr oeddent wedi arfer ei gael.

Roedd Roisin yn newydd i'r prosiect. Esboniodd nad oedd yn gallu cael mynediad at unrhyw gymorth oedd yn ei gael fel arfer o ddydd i ddydd ac felly roedd hi a’i theulu mor ddiolchgar o gael rhywbeth cadarnhaol i ganolbwyntio arno.

Roedd Roisin yn cymryd rhan ym mhob gweithgaredd ac yn cyfathrebu ar e-bost / dros y ffôn yn wythnosol gydag arweinydd y prosiect a’r artistiaid. Daeth y prosiect yn rhan bwysig iawn o'i hwythnos.

Roedd yr adborth gan Roisin a’i theulu mor wych; gan gynnwys sut roedd y gweithgareddau wedi darparu ffocws cadarnhaol yn ystod yr wythnos lle gwnaethant wirioneddol fwynhau treulio amser o ansawdd gyda'i gilydd, gweithio gyda'i gilydd a bod yn greadigol. Roedd hyn yn rhywbeth nad oedden nhw'n ei wneud fel arfer. Mae mam Roisin yn artist ac eglurodd nad yw Roisin byth eisiau creu celf gyda hi nawr ei bod hi’n oedolyn, felly roedd hyn yn gyfle hyfryd iawn iddyn nhw weithio gyda’i gilydd. Hyfryd oedd gweld pa mor falch oedd Roisin a’i theulu o’r gwaith hardd roedden nhw wedi’i greu gyda’i gilydd; roedd cael y gwaith wedi’i arddangos yn yr oriel wedi rhoi hwb mawr i’w hyder a’i balchder.

Dyfyniad Roisin  

 

 

“Fe wnes i fwynhau gwneud y gwaith a hyd yn oed pan nad oeddwn i’n teimlo'n rhy dda roedd gen i rywbeth i'w wneud.

Byddai'n dda cyfarfod â'r cyfranogwyr eraill pe bai un arall ryw dro, gan fod y prosiect yma wedi’i wneud yn y cyfnod clo, felly roedden ni i gyd yn ynysig.

Diolch am adael i mi gymryd rhan, rydw i mor arbennig, mae rhai pobl yn ein hanghofio ni.”

Roisin Gardner-Poole 2021, 27 oed

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397