Ymaelodu
Yn awyddus i ddod yn aelod o Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy?
Yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid ac adfer gobeithio, mae CGGC yn parhau i fod yma i'ch cefnogi chi a'ch sefydliad. Er mwyn gwneud hynny yn llawn, byddwn unwaith eto yn hepgor ein ffioedd aelodaeth ar gyfer 2022/23 i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn ein gwybodaeth aelodaeth blaenoriaeth, ein canllawiau a'n cyfleoedd cyllido mewn modd di-dor.
Byddwn felly’n cario eich aelodaeth drosodd, ond rydym yn gofyn i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich gwybodaeth gyswllt – fel bod y person cywir wedyn yn gallu rhaeadru’r wybodaeth yn briodol – ac fel ein bod yn gallu parhau i gydweithio a chefnogi defnyddwyr ein gwasanaeth hyd eithaf ein gallu.
Mae manteision dod yn aelod yn cynnwys y gwasanaethau canlynol AM DDIM:
- Blaenoriaethu Gwasanaeth Gwybodaeth Ariannu, gan gynnwys ymgysylltu 1 i 1 â chyllidwyr.
- Mynediad am ddim at gronfa ddata unigryw, gynhwysfawr.
- Hysbysebu eich holl ddigwyddiadau a swyddi gwag drwy ein systemau cyfryngau cymdeithasol
- Adnoddau sy'n gallu cefnogi eich gweithgareddau, e.e. gazebo, potiau pwmp, system y P.A, (i enwi ond ychydig).
- Mynediad at gyrsiau hyfforddi o safon.
- Cylchgronau ac e-fwletinau rheolaidd.
- Gwahoddiad i gyfarfod cyffredinol CGGC a hawliau pleidleisio.
- Mynediad at rwydweithiau CGGC. Cyfle i chi ymgysylltu â chydweithwyr mewn sefydliadau yn y trydydd sector, a dylanwadu ar gyrff staturory a chraffu ar wasanaethau cyhoeddus.
- Cymorth i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr
- Adolygu eich dogfennau a'ch polisïau llywodraethu (ar gais)