Gwybodaeth am Ariannu

Ydych chi’n chwilio am gyllid? Oes gennych chi syniad da ond ddim yn siŵr sut i’w ariannu?

Mae gan CGGC borth cyllid y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i arian ar gyfer eich prosiect nesaf. Mae cofrestru yn cymryd llai na munud ac wedyn bydd gennych chi fynediad ar unwaith i wybodaeth am filoedd o gyfleoedd ariannu lleol, rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd – i gyd yn rhad ac am ddim!

Gallwn hefyd eich helpu i wneud cais am arian a sicrhau bod eich mudiad a’i bolisïau yn ‘addas ar gyfer ariannu’. Cysylltwch â gMae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. am fwy o wybodaeth.

Gallwch gael gafael ar y taflenni gwybodaeth ‘Dod o hyd i arian a’i gael’ isod i gael mwy o wybodaeth am ddatblygu strategaeth codi arian, gwneud ceisiadau i gyrff ariannu a chyllid penodol ar gyfer prosiectau.

Taflenni Gwybodaeth

Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog

Cyflwyniad Rheolwr Cronfa Gymunedol Clocaenog Esyllt ydw i ac rwyf newydd gael fy mhenodi gan CGGC fel Rheolwr Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Clocaenog. Ers dros 10 mlynedd rwyf wedi bod yn gweithio yn agos gyda cymunedau ar draws Conwy wledig er mwyn datblygu prosiectau amrywiol ac unigryw oedd er...

Parhau i Ddarllen

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397