Privacy Policy (cy)

POLISI PREIFATRWYDD

 

Mae Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) wedi’i ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.

Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau defnyddio ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddo) yn nodi ar ba sail y byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu a ddarparwch chi i ni. Darllenwch yr wybodaeth a ganlyn yn ofalus i ddeall ein barn a’n harferion mewn perthynas â’ch data personol a sut y byddwn yn ei drin.

Gwybodaeth y byddwn efallai’n ei gasglu gennych

Efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data a ganlyn amdanoch chi:

  • Gwybodaeth a ddarparwch drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan (ein safle).
  • Os byddwch yn cysylltu â ni efallai y cadwn gofnod o’r ohebiaeth honno.
  • Manylion y trafodion a wnewch drwy ein gwefan.
  • Manylion eich ymweliadau â’n safle gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, ddata traffig, data am leoliad, gwe-logiau a data cyfathrebu arall a’r adnoddau a ddefnyddiwch.

Cyfeiriadau IP a Chwcis

I’ch helpu i ddefnyddio ein safle, efallai y byddwn yn defnyddio ffeil cwcis sydd wedi’i storio ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo i yriant caled eich cyfrifiadur. Maent yn ein helpu i wella ein safle a darparu gwasanaeth gwell a mwy personol. Maent yn ein galluogi i:

  • Storio gwybodaeth am eich dewisiadau, gan adael i ni newid ein safle yn unol â’ch diddordebau unigol.
  • Cyflymu eich chwiliadau.
  • Eich adnabod pan ddewch yn ôl i’n safle.

Gallech wrthod derbyn cwcis drwy agor y gosodiad ar eich porwr sy’n gadael i chi wrthod caniatáu i gwcis gael eu gosod. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis y gosodiad yma efallai na fyddwch yn gallu mynd i mewn i rannau arbennig o’n safle. Heblaw eich bod wedi addasu gosodiad eich porwr fel ei fod yn gwrthod cwcis, bydd ein system yn cynhyrchu cwcis pan fyddwch yn mewngofnodi ar ein safle.

Lle’r ydym yn storio eich data personol

Gallai’r data a gasglwn gennych gael ei drosglwyddo i, a’i storio mewn cyrchnod y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“EEA”). Gallai hefyd gael ei brosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r EEA sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Drwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddo, y storio neu’r prosesu yma. Byddwn yn cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd yma.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i amddiffyn eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i’n safle; fe wnewch unrhyw drosglwyddiad ar eich risg eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau tynn a nodweddion diogelwch i geisio atal mynediad diawdurdod.

Y defnydd a wnawn o’r wybodaeth

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a ddaliwn amdanoch yn y ffyrdd a ganlyn:

  • I sicrhau bod cynnwys o’n safle wedi’i gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi ac i’ch cyfrifiadur.
  • I roi’r wybodaeth, y cynhyrchion neu’r gwasanaethau i chi y gofynnwch amdanynt gennym neu y teimlwn y gallent fod o ddiddordeb i chi, lle’r ydych wedi rhoi eich caniatâd i ni gysylltu â chi i bwrpasau o’r fath.
  • I weithredu ein goblygiadau sy’n codi o unrhyw gontractau rhyngom ninnau a chithau.
  • I roi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth.

Nid ydym yn datgelu gwybodaeth am unigolion y gellid eu hadnabod i drydydd partϊon ond efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth iddynt am ein defnyddwyr ar y cyd.

Datgelu eich gwybodaeth

Heblaw yr hyn a nodwn yn y polisi yma, ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti. Nid ydym yn gwerthu neu drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol ar gyfer hysbysebu neu am resymau masnachol eraill.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol i bwrpasau marchnata. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu eich data) os byddwn yn bwriadu defnyddio eich data i bwrpasau o’r fath. Gallwch hefyd arfer yr hawl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni 

Gallai ein safle, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni at wefannau eraill. Os dilynwch ddolen at unrhyw rai o’r gwefannau hyn, nodwch os gwelwch yn dda bod gan y gwefannau hyn eu polisϊau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am y polisϊau hyn. Gwiriwch y polisϊau hyn os gwelwch yn dda cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau yma.

cael gafael ar wybodaeth

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi i weld gwybodaeth a gedwir amdanoch. Gallwch arfer yr hawl yma yn unol â’r Ddeddf. I weld y data efallai y bydd yn rhaid talu ffi o £10 i gwrdd â’n costau wrth i ni roi manylion yr wybodaeth sydd gennym amdanoch i chi.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol wedi’u postio ar y dudalen hon a, lle bo’n briodol, rhown wybod i chi drwy’r ebost.