Cynnig Cymraeg
Mae CGGC yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth cyflawn dwyieithog ym mhob agwedd o waith y cwmni yn cynnwys darpariaeth i'r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth a staff.
Dyma ein Cynnig Cymraeg:
- Gallwch ddarllen ein holl ddeunydd marchnata ar gyfer prosiectau yn y Gymraeg gan eu bod yn cael eu hargraffu'n ddwyieithog.
- Gallwch edrych ar ein gwefan a chysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg gan fod ein gwefan yn ddwyieithog a'n cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei bostio'n ddwyieithog.
- Os byddwch yn ein ffonio neu'n ysgrifennu atom yn y Gymraeg, byddwn yn delio â'ch ymholiad yn y Gymraeg.
- Mae croeso i chi gyfrannu yn y Gymraeg yn ein digwyddiadau gan ein bod yn darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
- Rydym yn falch o fod â staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sy'n siarad Cymraeg, cadwch lygad am y logo Iaith Gwaith. Rydym hefyd yn sicrhau mynediad i Staff, Gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr dderbyn Hyfforddiant a Datblygiad yn y Gymraeg.