
Gwirfoddoli
Beth yw manteision gwirfoddoli?
- Cael sgiliau a phrofiad newydd
- Magu hyder a hunan-barch
- Gwella’r gymuned
- Geirda diweddar
- Helpu eraill
- Cael Hwyl!

Dewis Cyfle Gwirfoddoli
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun:
- Oes gennych chi unrhyw sgiliau penodol y byddech eisiau eu defnyddio mewn rôl wirfoddol?
- Neu efallai yr hoffech ddysgu rhywbeth newydd neu feithrin sgiliau newydd?
- Ydych chi'n hoffi gweithio ar eich pen eich hun neu a fyddai'n well gennych chi fod yn rhan o dîm?
Mae gwirfoddoli'n cynnwys rhywfaint o ymrwymiad a chyfrifoldeb personol ond mae hefyd yn arwain at ymdeimlad o gyflawni a boddhad. Beth bynnag yw eich rhesymau chi dros wirfoddoli, y cyngor pwysicaf y gellir ei roi i chi yw mwynhewch yr hyn rydych yn ei wneud.

Fe allwn ni eich helpu chi i gymryd y cam nesaf
Gall CGGC roi’r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen i wneud dewis doeth am wirfoddoli. Rydyn ni’n helpu unigolion i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli ac rydyn ni’n darparu gwybodaeth am y sefydliadau sydd angen cefnogaeth. Cysylltwch a’r tîm gwirfoddoli i drafod y cyfleoedd posib i chi: 01492 534091 neu volunteering@cvsc.org.uk.
Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn i’w argraffu o'n ffurflen gofrestru, ei llenwi a'i e-bostio atom. Os nad ydych chi’n siŵr beth hoffech ei wneud, mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn lle da i ddechrau edrych, oherwydd gallwch bori yn ôl cod post neu faes diddordeb i weld yr amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Conwy, felly beth am gofrestru heddiw.