Dewi jones Eaf0q VW5q As unsplash

Datganiad Cenhadaeth

Nod CCGC yw cefnogi gweithredu gwirfoddol a chymunedol ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Yn arbennig hyrwyddo addysg, amddiffyn iechyd a helpu gyda thlodi, trallod a salwch.

Mae CCGC yn dod â chynrychiolwyr o’r sectorau gwirfoddol a statudol ynghyd i weithio mewn partneriaeth er lles trigolion y sir.

Amcanion

Cefnogi datblygu prosiectau newydd sy’n gwella gweithredu cymunedol a gwirfoddol.

Bod yn sianel effeithiol rhwng asiantaethau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yng Nghonwy.

Dyma ein datganiad effaith diweddaraf sy’n cynnig blas o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

 

Cynrychiolaeth

Mae CCGC yn cynrychioli’r Trydydd Sector mewn cyfarfodydd fel rhai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y Pwyllgor Partneriaeth Trydydd Sector, Cyfamod Lluoedd Arfog Conwy a Chompact Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru.

Gyflogwr Cyflog Byw

Mae’n bleser cael ymuno â’r mudiad o filoedd o sefydliadau, busnesau a phobl ledled y DU sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu cyflog diwrnod teg. Gyda’n gilydd gallwn ddal ati i sicrhau bod pawb yn gallu ennill digon o arian i fyw arno.

Aelodaeth

Mae CCGC yn gorff aelodaeth ac yn gallu cefnogi’r Trydydd Sector mewn sawl ffordd wahanol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.