Polisi Preifatrwydd
Mae CGGC yn Rheolydd Data ac rydym yn gyfrifol am benderfynu’r ffordd rydym yn dal ac yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn i ddeall y ffordd y defnyddir eich gwybodaeth, pwy all gael ati, y seiliau cyfreithlon dros ddal eich gwybodaeth a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth hon.
Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, mae croeso i chi gysylltu â CCGC
Mae angen i WCVA/ Cynghorau Gwirfoddol Sirol gasglu’r wybodaeth hon gennych er mwyn:
Cynhyrchu astudiaethau achos ar gyfer deunyddiau cyfathrebu Cefnogi Trydydd Sector Cymru fel rhwydwaith, a/neu ar gyfer y partner o fewn Cefnogi Trydydd Sector Cymru sydd wedi llunio’r astudiaeth achos er mwyn ei chynnwys yn y canlynol, er enghraifft:
- Adroddiadau effaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru
- Adroddiadau effaith/adroddiadau blynyddol a datganiadau ariannol Cynghorau Gwirfoddol Sirol/WCVA
- Astudiaethau achos a hyrwyddir ar wefannau Cynghorau Gwirfoddol Sirol/WCVA
- Deunyddiau cyhoeddusrwydd digidol ac ar bapur ar gyfer Cynghorau Gwirfoddol Sirol/WCVA, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
Y sail gyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yw mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd i brosesu ei ddata personol ar gyfer un neu fwy o ddibenion penodol. Erthygl 6(1)(a) o’r GDPR.
Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei dal yn ddiogel mewn fformat electronig ar systemau CGGC am 24 mis. Bydd wedyn yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.
Os cyhoeddir gwybodaeth yn ddigidol, mae’n bosib y bydd y rheini sy’n byw y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn ei gweld.
Mae gennych nifer o hawliau, mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol y mae WCVA yn ei dal amdanoch, gan gynnwys:
- Mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl unrhyw bryd a gallwch wneud hynny drwy gysylltu â CGGC
- Mynediad at y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch
- Cywiro unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yr ydych yn credu sy’n anghywir neu’n anghyflawn
- Gofyn i ni ddileu’ch gwybodaeth
- Cywiro unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch
- Cyfyngu ar brosesu data ymhellach.
Sylwch y gall eithriadau i’ch hawliau fod mewn grym o dan rai amgylchiadau.
Os hoffech arfer unrhyw rai o’ch hawliau, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data WCVA.
Os hoffech gwyno ynghylch unrhyw agwedd ar y ffordd rydym wedi trin eich data personol gallwch gysylltu â’r Awdurdod Goruchwylio (y Comisiynydd Gwybodaeth) yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF.