Bus Pic

Mae llawer o grwpiau cymunedol yn wynebu rhwystrau sylweddol sy’n cyfyngu ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau, gan gynnwys:

- Costau uchel llogi cerbydau ac offer

- Mynediad cyfyngedig at drafnidiaeth, yn enwedig ar gyfer teithio grŵp

- Dyblygu adnoddau ar draws sefydliadau

- Llai o gyfleoedd i gydweithio

- Pwysau ariannol sy’n cyfyngu ar ddarpariaeth gwasanaethau

Mewn llawer o achosion, adroddodd sefydliadau eu bod wedi canslo neu beidio â chynnal gweithgareddau oherwydd costau trafnidiaeth neu heriau logisteg. Cafodd y Fflyd Gymunedol ei dylunio fel system adnoddau a rennir i ymateb i’r heriau hyn.

 

Nodweddion Allweddol y Model

- Fflyd o gerbydau gan gynnwys; Bws mini 17 sedd, Bws mini 8 sedd (ychwanegwyd yn ddiweddarach), a Fan criw a threlar

- Banc offer cymunedol (cynhwysydd storio wedi’i gynllunio)

- Mynediad am ddim i sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a statudol

- System archebu ac adrodd ar-lein

- Cynnal a chadw, yswiriant a chydymffurfiaeth yn cael eu rheoli’n ganolog

- Darpariaeth hyfforddiant 

Mae’r model yn hyrwyddo symudiad oddi wrth berchnogaeth unigol tuag at ddefnydd a rennir, gan annog gweithio mewn partneriaeth ac effeithlonrwydd adnoddau.

 

Cafodd y prosiect ei ariannu’n wreiddiol gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr a’i lansio yn y Rhyl cyn ehangu i Gonwy. Roedd elfennau allweddol y ddarpariaeth yn cynnwys:

- Partneru â sefydliadau lleol megis Dial-a-Ride, 1Compass a Home-Start

- Sefydlu lleoliadau diogel ar gyfer storio cerbydau

- Darparu sesiynau cynefino a gweithdrefnau diogelwch gorfodol

- Cyflwyno amserlenni cynnal a chadw strwythuredig (gwiriadau dyddiol, misol ac 8-wythnosol)

- Creu rhwydwaith cynyddol o sefydliadau sy’n cymryd rhan

 

Canlyniadau ac Effaith

- Mwy na 36 o sefydliadau (tua 41 o grwpiau) yn defnyddio’r fflyd yn weithredol

- Amcangyfrifir bod dros 2,000 o breswylwyr wedi elwa

- Cerbydau wedi’u defnyddio ar gyfer dros 70 o deithiau yn y 6 mis cyntaf

- Mae gweithgareddau’n cynnwys; teithiau ieuenctid a chyrsiau preswyl, digwyddiadau chwaraeon a gemau, dathliadau cymunedol (e.e. Gorymdaith Nadolig a ymddangosodd ar ITV News), ag ymweliadau addysgol a hyfforddiant

- Mae’r prosiect wedi sicrhau arbedion sylweddol:

- Tua £3,720 wedi’i arbed gan Brighter Futures yn unig ac amcangyfrif o £14,000+ o arbedion ar gyfer y sector gwirfoddol ehangach

- Roedd grwpiau’n arfer talu rhwng £180–£240 y dydd am logi bws mini, gan olygu bod y model rhad ac am ddim wedi lleihau rhwystrau ariannol yn sylweddol.

- Partneriaethau wedi’u datblygu ledled Gogledd Cymru a thu hwnt - Dros 80 o grwpiau yn gysylltiedig yn anffurfiol trwy’r rhwydwaith

- Cydweithio rhwng ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys; grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon, elusennau a darparwyr tai, ag ysgolion a chanolfannau Cymunedol

- Darparwyd hyfforddiant yn cynnwys; hyfforddiant gyrru MIDAS, Iechyd a Diogelwch (Lefel 1 a 2), Cymorth Cyntaf a CPR, a Hyfforddiant asesu risg a chydymffurfiaeth. Mae hyn wedi gwella hyder a gallu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau.

 

Manteision Cymdeithasol a Chymunedol

Mae’r prosiect wedi:

- Lleihau unigrwydd a gwella ymgysylltiad cymunedol

- Galluogi mynediad at gyfleoedd i bobl ifanc a grwpiau bregus

- Cynyddu nifer ac amrywiaeth y gweithgareddau cymunedol

- Cefnogi lles trwy gyfranogiad mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden

 

Yn dilyn llwyddiant yn y Rhyl, mae’r model wedi’i efelychu yn Sir Conwy mewn partneriaeth â sefydliadau lleol. Yng Gonwy, mae ‘na mynediad gwell at drafnidiaeth fforddiadwy ar draws y sir a galw cryf gan grwpiau megis; Abergele Community Action, North Wales Superkids, a Welsh Crown Green Bowling Association.

 

Meddai defnyddwyr:

“Mae’r bws mini yn ein galluogi i fynd i gystadlaethau am gost resymol… gan helpu plant i barhau i wneud yr hyn maen nhw’n ei garu.”

“Gwnaeth y gallu i logi’r bws mini arbed llawer o arian a gwneud profiad bythgofiadwy yn bosibl.”

 

Mae Datblygiadau yn y Dyfodol yn cynnwys:

- Ehangu’r fflyd gyda cherbydau mwy hygyrch (heb ofyniad D1)

- Datblygu tîm gwirfoddol o yrwyr

- Gwella mesur effaith (cost ac arbedion carbon)

- Ehangu’r banc offer ac adnoddau a rennir

- Lledaenu’r model ymhellach ledled Cymru

 

Mae Fflyd Gymunedol Sir Ddinbych a Chonwy yn dangos sut gall adnoddau a rennir drawsnewid seilwaith cymunedol. Drwy leihau costau, cynyddu mynediad a hyrwyddo cydweithio, mae’r fenter wedi creu rhwydwaith cymunedol mwy cysylltiedig, gwydn a chynaliadwy. Mae’r prosiect bellach yn cael ei ystyried yn fodel arfer da y gellir ei atgynhyrchu, gyda photensial i’w fabwysiadu’n ehangach ledled y DU.

Group Pic Group with Bus 2 Group with Bus