Os oes angen arian ychwanegol ar eich sefydliad cymunedol, dewch draw i'n sesiwn ar-lein ni am ddim i ddarganfod sut gall eich sefydliad dderbyn cyllid digyfyngiad am ddim drwy'r platfform cyllido easyfundraising.

Yn y sesiwn anffurfiol a defnyddiol yma, bydd Becky o easyfundraising yn dangos i chi sut gall eich gwirfoddolwyr, eich staff a’ch cefnogwyr ddefnyddio'r platfform easyfundraising i godi rhoddion am ddim i'ch sefydliad pan fyddant yn siopa gyda manwerthwyr blaenllaw.

 

Beth i'w ddisgwyl:

• Arddangosfa fyw o sut mae'n gweithio

• Cyfarwyddiadau ar sut i sefydlu eich sefydliad

• Awgrymiadau ar gyfer sut i godi cymaint â phosibl

• Sesiwn Holi ac Ateb gyda Becky

 

Addas ar gyfer: unrhyw un sy'n ymwneud â chodi arian at achos da gan gynnwys grwpiau gwirfoddol, CICs, mentrau cymdeithasol, eglwysi, ysgolion, clybiau chwaraeon ac elusennau.

Bydd yn sesiwn anffurfiol gyfeillgar ac mae ar agor i unrhyw aelod o'ch tîm felly mae croeso i chi rannu'r gwahoddiad hwn.
 

Am easyfundraising

Drwy easyfundraising bydd 8,000 o fanwerthwyr ar-lein yn rhoi arian i'ch sefydliad pan fydd eich gwirfoddolwyr, eich staff a’ch cefnogwyr yn siopa gyda nhw. Gall unrhyw beth o siopa bwyd wythnosol i wyliau teuluol gynhyrchu rhodd am ddim i chi. Bob 3 mis byddwch yn derbyn yr holl roddion sy’n cael eu codi gan eich cefnogwyr a gan ei fod yn gyllid digyfyngiad, rydych chi’n cael gwario'r arian ar beth bynnag sydd arnoch chi ei angen.

Gallwch sefydlu tudalen easyfundraising am ddim ar gyfer eich sefydliad cyn y sesiwn yma: www.easyfundraising.org.uk/conwy