Postcode Community Trust - Cyfarfod á'r Cyllidwr
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ar-lein AM DDIM 'Cyfarfod á'r Cyllidwr' gyda Postcode Community Trust.
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ar-lein AM DDIM 'Cyfarfod á'r Cyllidwr' gyda Postcode Community Trust. Mae Postcode Community Trust yn cefnogi elusennau llai ac achosion da yng Nghymru i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau er budd pobl a'r blaned. Yn 2025, dosbarthodd Postcode Community Trust dros £3.5 miliwn mewn grantiau ledled Cymru!Yn y sesiwn ar-lein hon, bydd Postcode Community Trust yn trafod y canlynol:
- Cyllid sydd ar gael
- Themâu a blaenoriaethau ariannu
- Meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais
- Grantiau partneriaeth
- Gwefan
Cyn y sesiwn, gallwch edrych ar wefan Postcode Community Trust. Bydd sleidiau'n cael eu dosbarthu ar ôl y sesiwn.