23

Y cynllun:

Diolch I gyllid gan Avanti West Coast, mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru (rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru) wedi sefydlu grant untro i gefnogi cymunedau ar hyd y rheilffordd yn y siroedd canlynol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae’r cynllun yn cynnig arian a fydd yn galluogi cymunedau ar hyd y rheilffordd i feithrin cydnerthedd neu gynaliadwyedd eu prosiect / gweithgareddau neu fenter newydd. 

Gall sefydliadau cymunedol, elusennau a Chwmnïau Budd Cymunedol (gweler y meini prawf cymhwysedd) yn y gymuned leol (o fewn 5 milltir i’r gorsafoedd) wneud cais am arian i gefnogi prosiectau sy’n targedu cynhwysiant cymdeithasol, yn annog newid ymddygiad, yn gysylltiedig â gweithgareddau iechyd a lles, a lle bo’n bosibl, yn annog defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

Gorsafoedd Rheilffordd Cymwys

  • Llandudno
  • Deganwy
  • Llandudno Junction
  • Glan Conwy
  • Tal y Cafn
  • Dolgarrog
  • Llanrwst
  • Gogledd Llanrwst
  • Betws Y Coed
  • Pont y Pant
  • Dolwyddelan
  • Pont Rufeing
  • Blaenau Ffestiniog
  • Shotton
  • Flint
  • Prestatyn
  • Rhyl
  • Abergele and Pensarn
  • Bae Colwyn
  • Conwy
  • Llanfairfechan
  • Penmaenmawr
  • Bangor
  • LlanfairPG
  • Bodorgan
  • Ty Croes
  • Rhosneigr
  • Y Fali
  • Caergybi

Arian sydd ar gael:

Mae grantiau hyd at £1000 ar gael, a chyfanswm yr holl grantiau yw £20,000

Ffluren Gais

Ar gyfer beth gellir defnyddio’r grant?

Gellir defnyddio’r grant ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi prosiectau llawr gwlad er mwyn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a gwella iechyd a lles y gymuned leol. Bydd y grant yn ariannu gweithgareddau newydd, neu rai sy’n bodoli eisoes, ac sy’n bodloni amcanion y cynllun. Does dim rhaid i’r grant fod ar gyfer costau prosiect yn unig, gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau cynnal, gan gynnwys staff, biliau, rhent neu gynnal a chadw, cyn belled ag y gellir dangos nad oes modd talu’r costau hyn mewn unrhyw ffordd arall ac y bydd hyn yn helpu’r sefydliad i barhau i fod yn weithgar ac yn gynaliadwy.


Terfyn Amser y Gweithgaredd

29ain Awst 2025 - Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau 

*Bydd CVSC yn Cau'r Gronfa os bydd y galw'n fwy na'r swm grant sydd ar gael.

Cynorthwyydd Hwb Cefnogaeth Cymunedol

CVSC Logo Jpeg