
Cronfa Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid
Mae’r Gronfa Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid yn cael ei gweinyddu gan CGGC ar ran WCVA a Llywodraeth Cymru.
Mae'n cael ei harwain a'i chynnal gan bobl ifanc, ac fe'i cynlluniwyd i gefnogi amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli bychain dan arweiniad ieuenctid yn sir Conwy. Bydd y gronfa'n helpu i rymuso pobl ifanc i ddatblygu eu mentrau eu hunain; cymryd rhan weithredol yn eu cymunedau a chynnwys/recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan.
Mae grantiau o hyd at £2,000 ar gael i gefnogi gwirfoddoli neu sefydlu gweithgarwch gwirfoddoli.
Caiff ceisiadau eu dewis a'u hargymell gan banel o bobl ifanc 14 i 25 oed a bydd y ceisiadau wedi'u lleoli yn Sir Conwy.
Mae Grant Dan Arweiniad Pobl Ifanc nawr ar agor ar gyfer ceisiadau. Lawrlwythwch y ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd isod:

Ffurflen Gais Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc

Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid: Canllawiau i Ymgeiswyr




















Cliciwch ar y saethau ar ochr y ddelwedd i weld y prosiectau a ariannwyd
















