Prev
Next

Eich cymuned. Eich profiad. Eich blaenoriaethau. Dweud eich dweud.

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr wedi bod yn cefnogi cymunedau ledled siroedd Conwy, Dinbych a’r Fflint ers 2015.

Nawr, rydym am glywed eich barn am y Gronfa hyd yma, yn ogystal â’r hyn yr hoffech ei weld yn y dyfodol.

Beth sydd wedi gweithio’n dda? Beth ellid ei wella? Beth yw’r prif flaenoriaethau lle rydych yn byw? A lle gallai’r Gronfa wneud y gwahaniaeth mwyaf yn y blynyddoedd i ddod?

P’un a ydych wedi derbyn neu ymgeisio am gyllid, yn gwybod am brosiectau y mae’r Gronfa wedi’u cefnogi, neu’n clywed amdani am y tro cyntaf, mae eich safbwynt yn bwysig.

250114 RWE north wales 1670

Ffermwnt Gwynt Alltraeth GYM, sydd wedi’i leoli oddi ar arfordir Gogledd Cymru, yw ail ffermwnt gwynt mwyaf y byd. Mae gan y ffermwnt gwynt arloesol hwn y potensial i gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ddarparu ar gyfer anghenion blynyddol cyfwerth â thua 400,000 o aelwydydd cyfartalog yn y DU. Mae’n cynrychioli cyfanswm buddsoddiad o fwy na £2 biliwn, sydd ar hyn o bryd yn cael ei rannu rhwng RWE (50%), Stadwerke München GmbH (30%), a Macquarie Infrastructure and Real Assets (20%).

RWE, gweithredwr Fferm Wynt ar y Môr Gwynt y Môr, yw'r cynhyrchydd pŵer blaenllaw yn y DU, yn cyflogi'n uniongyrchol tua 3,300 o bobl ac yn darparu'r cyfwerth tua 12 miliwn o gartrefi o bortffolio amrywiol sy'n cynnwys gwynt ar y tir, gwynt alltraeth, dŵr, biomass a nwy.

GYM

Mae'r gronfa'n hyblyg iawn fel ei bod yn gallu diwallu gwahanol anghenion ac uchelgeisiau cymunedau ar draws yr ardal arfordirol. Mae'n canolbwyntio ar y themâu canlynol:

  • Creu cymunedau cadarn a chynaliadwy;
  • Datblygu cymunedau ffyniannus gyda thwf economaidd cryf;
  • Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb mewn cymunedau.

Gweinyddir y gronfa yn annibynnol gan Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) mewn cydweithrediad â Chynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae CGGC yn cyflogi rheolwr cronfa llawn amser, lleol. Gwneir y penderfyniadau am ddyrannu’r arian gan banel grantiau o bobl sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn yr ardal sy’n elwa o’r gronfa.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch grants@cvsc.org.uk neu 01492 523845