Ymgeisio
Gyda buddsoddiad hirdymor o £19 miliwn, dros oes y fferm wynt, mae Fferm Wynt ar y Môr Gwynt y Môr (GYM) yn helpu cymunedau arfordirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint i gyflawni pethau anhygoel.
Gwynt y Môr
Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais a chymhwysedd a meini prawf trwy lawrlwytho'r canllawiau. Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais grantiau bach a micro - ond rydym bob amser yn croesawu sgwrs yn y lle cyntaf!
Yn dilyn seibiant yn ystod ail hanner 2025, rydym yn falch o gyhoeddi bod cronfa Gwynt y Môr bellach ar agor i geisiadau newydd.
Grantiau o hyd at £1,500 (Grantiau Micro)
Mae'r gronfa Micro ar gael ar gyfer digwyddiadau un tro neu i gynorthwyo grwpiau i gychwyn prosiect newydd (peilot) neu brynu offer angenrheidiol sydd yn cyd-fynd â'r themau isod:
Thema 1: Adeiladu cymunedau cryf, cydlynol a chynaliadwy
Thema 2: Datblygu cymunedau ffyniannus, mentrus gyda thwf economaidd cryf
Thema 3: Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb mewn cymunedau
Gallwch roi cais i fyny at £1,500.
Grantiau o £1,500 - £20,000
Mae ceisiadau grantiau mawr hyd at £75,000 nawr ar agor
Cysylltwch gydag aelod o'r tîm grantiau i drafod eich prosiect, ac i dderbyn ffurflen gais:
Rydyn ni yma i helpu
Gallwch bob amser ein ffonio ni os oes gennych chi gwestiynau penodol am y broses ymgeisio. Rydym hefyd yn cynnal cymorthfeydd cyllido rheolaidd mewn partneriaeth â chyllidwyr eraill, gan gynnwys y Loteri Genedlaethol. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i helpu ac arwain ymgeiswyr i wneud cais i’r gronfa, i gefnogi ymgeiswyr i ganfod cyfleoedd cyllido cyfatebol ac i wneud y defnydd gorau posib o'r gronfa os oes cyllidwyr priodol eraill i wneud cais iddynt. Cadwch lygad ar Twitter a Facebook am ddyddiadau’r cymorthfeydd cyllido.
Rydym yn hoffi clywed am eich prosiectau, ac mae'n well gennym hyn na derbyn ceisiadau oer i'r gronfa.
Cysylltwch â ni hefyd os cewch chi anghenion hygyrchedd ac os rydych angen cymorth. Rydyn ni yma i helpu!
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd penderfyniadau am ddyfarniadau’n cael eu gwneud gan y panel grantiau, sy’n cael ei gydlynu gan ein Tîm Grantiau.
- Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cadarnhad ar ôl derbyn ei gais.
- Os nad yw'n gymwys, bydd y Tîm Grantiau’n hysbysu'r ymgeisydd.
- Bydd pob cais yn cael ei asesu gan y Tîm Grantiau ac wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r panel grantiau a fydd yn gwneud pob penderfyniad am ddyrannu’r cyllid.
- Mae'r panel yn cynnwys trigolion lleol o’r ardal sy’n elwa o’r gronfa. Mae gwrthdaro buddiannau’n fater pwysig iawn i ni ac ni fydd unrhyw aelod o'r panel sydd â gwrthdaro buddiannau mewn perthynas â'ch cais yn asesu nac yn rhan o'r trafodaethau am eich cais.
- Gall Rheolwr y Gronfa, wrth gynnal diwydrwydd dyladwy, holi am strwythur prisio dyfynbrisiau, llythyrau cefnogi, cyfranogwyr/buddiolwyr presennol neu ddarpar gyfranogwyr/buddiolwyr eich prosiect. Os ydych yn cael eich cyllido gan gyllidwr presennol, gall Rheolwr y Gronfa gysylltu â nhw am wybodaeth ychwanegol fel rhan o'r archwiliadau diwydrwydd dyladwy.
- Yn dilyn cyfarfod y panel, hysbysir pob ymgeisydd ynghylch a ydynt wedi bod yn llwyddiannus.
- Mae penderfyniad y panel yn derfynol ac ni ellir darparu adborth manwl.
Wedyn gofynnir i’r ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i'r canlynol:
- Ar ôl cwblhau eu prosiect, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd gwblhau ymarfer monitro a gwerthuso, ynghyd â thystiolaeth o wariant yn seiliedig ar ganlyniadau y cytunwyd arnynt ar ddechrau'r prosiect.
- Defnyddio’r arian fel y nodir yn eich cais oni bai fod cytundeb wedi'i dderbyn ymlaen llaw.
- Cyflwyno adroddiadau cynnydd, bydd y rhain yn cael eu hamlinellu i bob astudiaeth achos unigol yn amodol ar faint y prosiect.
- Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus gytuno i'n canllawiau brand, gan gynnwys defnyddio'r logo e.e. lliwiau a maint, at ddibenion cyhoeddusrwydd ac ati.
Mae angen cyflwyno'r holl sylwadau a’r ymholiadau a gyfeirir at y Gronfa i'r cyfeiriad canlynol grants@cvsc.org.uk