Prev
Next

Mae Fferm Wynt Alltraeth Gwastadeddau Rhyl, a weithredir gan RWE Renewables UK Limited wedi darparu cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol ar draws rhannau o arfordir Gogledd Cymru. 

Fe lansiodd y gronfa yng Nghonwy yn 2009 gyda lefel sylfaenol o £75,000 ac mae wedi’i gysylltu mynegai bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Bydd y gronfa ar gael bob blwyddyn drwy gydol oes weithredol y fferm wynt. Yng Nghonwy mae'r gronfa'n cefnogi cymunedau o Fochdre yn y gorllewin hyd at Fae Cinmel yn y dwyrain.  Mae'r gronfa nawr yn cael ei gweinyddu gan CGGC ar ran o Fferm Wynt Alltraeth Gwastadeddau Rhyl.

Bu ceisiadau i’r gronfa yn cael eu asesu gan banel gwneud penderfyniadau o gynrychiolwyr cymunedol.

Mae'r gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau am grant o £2,000 hyd at £10,000. Bydd yn gallu ariannu'r prosiectau cyfalaf a refeniw, a bydd angen i gefnogi cyflwyno o leiaf un o bedair thema y gronfa:

  • Cryfhau eich gymuned ar gyfer y dyfodol
  • Cynnwys eich cymuned ac adeiladu ysbryd cymunedol
  • Wella bywydau pobl lleol
  • Creu cyfleusterau lleol mwy dichonadwy

 Hyd yn hyn, mae'r gronfa gymunedol alltraeth Gwastadeddau'r Rhyl wedi dyfarnu 26 o geisiadau gwerth cyfanswm o dros £160,000.   Mae ystod eang o brosiectau, o weithdai cymunedol bach i gostau staff/gweinyddol a gwaith adeiladu / adnewyddu.

Isod mae rhestr diweddar o'r grwpiau llwyddianus:-

  • Vision Support -  Cyfraniad o £3,000 tuag at uned wybodaeth symudol newydd
  • Siop Cyngor ar Fudd Daliadau -  £9,504 tuag at brosiect budd daliadau i bobl o oedran pensiwn
  • Sgowtiaid Cylch Conwy  - Cyfraniad o £3,000 tuag at bws mini newydd 16-sedd
  • Dangos y Cerdyn Coch i Hilliaeth - Cyfraniad o £5,880 tuag at raglen ymwybyddiaeth cymunedol  

Am restr gyflawn o geisiadau a ddyfarnwyd hyd yn hyn, cliciwch ar y linc isod:

Ceisiadau llwyddianus

Dylai pob cais cefnogi thema drawsbynicol y gronfa:

  • Cyflwyno Gwerth arian

 Lawrlwythwch y ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd yma:

Canllawaiau Ymgeisydd

Ffurflen gais

Cysylltwch â ni am drafodaeth gychwynnol a ffurflen gais. Am fwy o wybodaeth darllenwch ein tudalen cwestiynau cyffredin yma, neu cysylltwch Aled Roberts ar on aledroberts@cvsc.org.uk  neu 01492 523845

Rhyl Flats Area Of Benefit