Squared images for Website

Yng nghyfraith y DU, mae rhywun yn blentyn nes ei fod yn troi’n 18 oed. Mae’n hanfodol bod y gwasanaethau a’r gweithgareddau mae eich grŵp yn eu cynnig mor ddiogel â phosib, ac i sicrhau hyn, rhaid wrth fesurau diogelu yn eu lle.         

Bydd sefydlu mesurau diogelu o help i’ch grŵp warchod plant, pobl ifanc ac oedolion rhag niwed a cham-drin, yn ogystal â helpu staff a gwirfoddolwyr i wybod beth i’w wneud os ydynt yn poeni neu’n bryderus am blentyn neu oedolyn.

Hefyd, byddwch yn wyliadwrus a chadwch lygad am ffrindiau, teuluoedd a chymdogion, ac os gwelwch unrhyw arwyddion o gwbl sy'n gwneud ichi feddwl y gallent fod yn profi unrhyw fath o gamdriniaeth neu esgeulustod, adroddwch eich pryderon.

I riportio plentyn sydd mewn perygl:

  •  Ffoniwch 01492 575111 yn ystod oriau swyddfa
  •  Ffoniwch 0300 123 3079 ar unrhyw adeg arall
  •  Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i  duty@conwy.gov.uk

I riportio oedolyn sydd mewn perygl:

Polisi Diogelu

Dylai pob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant (unrhyw un nad yw’n 18 oed eto) ac oedolion sy’n wynebu risg roi polisi diogelu ar waith sy’n nodi sut y maent yn bwriadu cadw’r bobl hynny’n ddiogel.

Gweler isod ddolen i Bolisi Diogelu CGGC ei hun sy’n hyrwyddo’r cyfrifoldeb cyfunol hwn i gadw pawb yn ddiogel.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi arweiniad i ymarferwyr sy'n ymwneud â diogelu ar sut y dylid gwneud pethau. Mae modd lawrlwytho'r gweithdrefnau i'ch ffôn symudol. Mae dolenni i lawrlwytho'r ap ar waelod hafan y wefan drwy'r ddolen isod. Ar ôl ichi lawrlwytho'r ap, ni fydd angen cysylltiad Wi-Fi arnoch i ddarllen y gweithdrefnau.

Wales safeguarding procedures

https://safeguarding.wales/cy/

Canllaw 5 munud y Comisiwn Elusennau “Diogelu i elusennau ac ymddiriedolwyr”

Mae’r canllaw byr a hygyrch hwn yn tynnu sylw at eich cyfrifoldebau chi i gadw pawb sy’n dod i gysylltiad â’ch elusen yn ddiogel rhag niwed: mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr, staff a buddiolwyr.

Yn anffodus does dim fideo ar gael yn y Gymraeg Safeguarding for charities and trustees - YouTube