Swydd Wag: Swyddog Gweinyddol Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
Rydym yn cyflogi!
Swyddog Gweinyddol Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
22.5 awr yr wythnos
Cyflog - £18,258 y flwyddyn a chyfraniad pensiwn
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol, egnïol a threfnus gyda phrofiad gweinyddol i ymuno â'n tîm.
Bydd angen ystod eang o sgiliau a phrofiad ar yr ymgeisydd llwyddiannus, fydd hyn yn cynnwys y gallu i:
- Gynllunio, trefnu a rheoli cyfarfodydd o’r panel
- Dosbarthu a chymryd cofnodion cyfarfodydd o’r panel
- Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i’w llawn botensial
- Ymateb i ymholiadau ynglŷn ar gronfa
- Mynychu cyfarfodydd (rhithiol a chorfforol)
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos profiad o weithio gyda sefydliadau gwirfoddol / cymunedol; gwerthfawrogiad o faterion gwledig sy'n effeithio ar fywyd mewn ardaloedd gwledig a'r gallu i weithio o fewn terfynau amser tynn.
Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20fed o Ebrill 2026
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs ffoniwch Esyllt Adair 01492 523855 neu e-bostiwch esylltadair@cvsc.org.uk