Prosiectau Cymunedol yn Derbyn Cyllid drwy Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn falch o gyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus diweddaraf i dderbyn grantiau cyllid. Bydd y dyfarniadau’n cefnogi ystod eang o brosiectau sy’n cyfrannu at lesiant a chynaliadwyedd cymunedau lleol. Edrychwn ymlaen at weld y prosiectau hyn yn cael eu cyflawni a’r effaith gadarnhaol y byddant yn ei chael ledled yr ardal.