250114 RWE north wales 1670

Pobl a sefydliadau lleol sy’n adnabod eu cymunedau orau. Hoffem glywed beth sy’n bwysig i chi, a beth rydych chi’n meddwl ddylai’r gronfa gymunedol hon ei gefnogi yn y blynyddoedd i ddod.

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr (y Gronfa) yn fuddsoddiad hirdymor gwerth £19 miliwn sy’n cefnogi cymunedau arfordirol ar draws Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Ers 2015, mae grantiau wedi cefnogi prosiectau sy’n cyfrannu at gymunedau cryfach a mwy cynaliadwy, ffyniant lleol a thwf economaidd, yn ogystal â lleihau tlodi ac anghydraddoldeb.

Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, rydym am i leisiau lleol helpu i lywio’r camau nesaf. Mae’r arolwg hwn yn gyfle i chi rannu eich barn am y blaenoriaethau yn eich cymuned, beth y credwch chi sy’n gweithio’n dda, a ble y gallai’r Gronfa gael yr effaith fwyaf yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym am glywed gan bawb, p’un a ydych wedi derbyn cyllid, wedi gwneud cais yn y gorffennol, yn gwybod am brosiectau y mae’r Gronfa wedi’u cefnogi, neu os nad ydych erioed wedi clywed am y Gronfa cyn heddiw. Gall pob safbwynt helpu i greu darlun cliriach o flaenoriaethau a chyfleoedd lleol.

Os ydych wedi bod yn rhan o sefydliad sydd wedi derbyn grant gan y Gronfa yn y gorffennol, gallwch hefyd rannu eich barn am yr hyn a weithiodd yn dda, a’r hyn a allai fod wedi gweithio’n well.

Bydden ni’n ddiolchgar iawn pe baech chi’n llenwi’r holiadur.

Bydd yn cymryd tua 5 munud i aelodau o’r cyhoedd lenwi’r holiadur. Os ydych chi’n cynrychioli sefydliad sydd wedi gwneud cais i’r Gronfa, bydd yn cymryd tua 12 i 15 munud.