Mae Prosiect Cariad Crew yn Recriwtio Gwirfoddolwyr!
Mae prosiect gwirfoddoli sydd wedi cael ei ddatblygu gan sefydliad Cymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy (CCGC) a Hosbis Dewi Sant yn creu cyfleoedd newydd i bobl wirfoddoli ym maes gofal iechyd a lliniarol ledled Gogledd Cymru.
Gyda chyllid gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), mae Cariad Crew wedi treulio’r chwe mis diwethaf yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gwirfoddolwyr presennol a phobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i ddatblygu seilwaith gwirfoddoli newydd yn Hosbis Dewi Sant.
Mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar greu cyfleoedd gwirfoddoli ym maes gofal iechyd a gofal lliniarol sy’n gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion y gwirfoddolwyr a’r Hosbis.
Un elfen allweddol o’r prosiect yw gweithio’n agos gyda thîm Gofal Iechyd a Lliniarol Hosbis Dewi Sant i ddeall ble gall gwirfoddolwyr wneud cyfraniad ystyrlon ac i ddatblygu swyddogaethau newydd sy’n ategu gwaith y staff.
Fel rhan o’r prosiect, mae 24 aelod o staff Hosbis Dewi Sant wedi derbyn hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, gan helpu i feithrin dealltwriaeth o anabledd, hygyrchedd a’r rhwystrau sy’n gallu atal pobl rhag cymryd rhan mewn gwirfoddoli.
Mae’r prosiect hefyd yn datblygu straeon cymdeithasol ar gyfer Hosbis Dewi Sant a Hafan Dewi Sant. Bydd y rhain yn helpu pobl i ddeall beth i’w ddisgwyl wrth ymweld â’r Hosbis neu wirfoddoli yno, a’u nod yw gwneud y profiad yn fwy hygyrch ac yn fwy croesawgar.
Dros y chwe mis diwethaf, mae CCGC a Hosbis Dewi Sant wedi cynnal amrywiaeth o weithdai a sesiynau ymgysylltu hefyd gyda rhanddeiliaid, gwirfoddolwyr a darpar wirfoddolwyr. Mae’r sesiynau hyn wedi helpu i siapio’r swyddogaethau gwirfoddoli newydd, yr hyfforddiant a’r seilwaith, gan sicrhau bod y prosiect yn cael ei ddatblygu ar y cyd â’r bobl a fydd yn ei ddefnyddio ac yn elwa ohono.
Yn dilyn y cyfnod yma o ddatblygu, mae Cariad Crew bellach yn barod i groesawu gwirfoddolwyr newydd.
Mae’r cyfleoedd cyntaf yn cynnwys swyddogaethau fel Derbynnydd Cleifion Mewnol Gwirfoddol, Cymorth Cwnselydd Gwirfoddol, Cymorth Cyfathrebu Gwirfoddol – Iaith Arwyddion Prydain, Tywysydd Cymunedol Gwirfoddol a Gwirfoddolwr Digwyddiadau Cymunedol.
Nod y prosiect yw dangos sut gall gwirfoddoli ddarparu cyfleoedd ystyrlon i bobl, a hefyd gwneud cyfraniad gwerthfawr at y gofal a’r gefnogaeth sy’n cael eu darparu gan yr Hosbis.
Dywedodd Jasmine Pilling, y Rheolwr Datblygu Gwirfoddolwyr:
“Mae Cariad Crew wedi rhoi cyfle i ni wrando ar wirfoddolwyr, darpar wirfoddolwyr, staff a rhanddeiliaid, ac i feddwl yn wahanol am sut gall gwirfoddoli weithio ym maes gofal iechyd a lliniarol. Rydyn ni wedi treulio’r chwe mis diwethaf yn gosod y sylfeini, yn datblygu swyddogaethau ac yn edrych ar hygyrchedd, ac rydyn ni bellach yn barod i agor y cyfleoedd yma i’r gymuned.”
Mae tîm Cariad Crew bellach yn annog pobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ym maes gofal iechyd a lliniarol - gan gynnwys pobl sydd heb wirfoddoli o’r blaen efallai - i ddod i wybod mwy.
Does dim angen i chi fod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol i fod yn rhan o Cariad Crew. Mae’r swyddogaethau newydd wedi cael eu datblygu i gynnig ffyrdd gwahanol i bobl gyfrannu, gyda hyfforddiant a chefnogaeth ar gael fel sy’n briodol i bob rôl.
I gael gwybod mwy am brosiect Cariad Crew a’r cyfleoedd gwirfoddoli presennol, cysylltwch â ni.