Amgueddfa Glowyr y Parlwr Du
Cofeb y Glowyr yn Ffynnongroyw
Yn 2025, dyfarnwyd £10,916 i Amgueddfa Glowyr y Parlwr Du i adnewyddu'r brif ffrâm wrth ymyl yr A548 yn Ffynnongroyw. Mae'r strwythur yn coffáu pwll glo y Parlwr Du, y pwll glo dwfn olaf i gau yng Ngogledd Cymru yn 1996. Diolch i grant gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr, mae'r brif ffrâm a'r paneli o'i hamgylch wedi cael eu hadnewyddu, ynghyd ag olwyn y pwll sydd wedi'i lleoli ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r grant wedi talu am ailargraffu'r llyfryn Memories of Point of Ayr hefyd.
Un elfen arbennig iawn o'r prosiect yw creu panel coffa newydd sydd wedi'i osod ger y brif ffrâm. Mae'n coffáu'r chwe dyn a gollodd eu bywydau mewn damwain drasig wrth i siafft Rhif 3 suddo yn 1952. Ar y 4ydd o Orffennaf, ymunodd nifer fawr o gyn-lowyr, swyddogion a phobl leol â theuluoedd y rhai a fu farw yn y ddamwain i weld Becky Gittins AS yn dadorchuddio'r panel.
Dywedodd John Wiltshire, Cadeirydd Amgueddfa Glowyr y Parlwr Du:
"Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Gwynt y Môr am wneud hyn yn bosibl. Rydw i wedi bod yn gweithio i gael y panel coffa wedi'i greu ers blynyddoedd bellach. Mae'n golygu cymaint i deuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau. Mae'n wych gweld y brif ffrâm a'r olwyn wedi'u hadnewyddu hefyd."
Gallwch ddarllen mwy am Drychineb Pwll Glo’r Parlwr Du yma.