Trac Pwmp Tarmac Mwyaf Cymru yn Agor yn Swyddogol, Diolch i Gefnogaeth gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr
Mae buddsoddiad sylweddol o £10,000 gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr a £10,000 gan Gronfa Gymunedol Gwastadeddau'r Rhyl wedi cefnogi dyluniad a gwaith adeiladu'r trac pwmp tarmac mwyaf yng Nghymru.
Dan arweiniad CIC Abergele Wheelers, nod y prosiect yma yw cael mwy o bobl i symud a mwynhau'r awyr agored.
Mae gan y trac pwmp, sydd wedi'i leoli ym Mharc Pentre Mawr yn Abergele, 378 o fetrau trawiadol o ofod reidio cyfun. Mae gan y trac dair prif nodwedd, sef; prif drac 210 o fetrau, trac dechreuwyr 70 o fetrau, a llinell naid uwch 74 o fetrau.
Mae'r trac wedi'i gynllunio ar gyfer dechreuwyr a beicwyr brwd fel ei gilydd, ac mae posib ei ddefnyddio gyda phob math o offer, gan gynnwys beiciau, sgwteri a sglefrfyrddau. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio'n ofalus gyda phob oedran a gallu mewn golwg.
Bu Aled Roberts, Uwch Swyddog Grantiau yn CGGC sy'n gweithio gyda Chronfeydd Gwynt y Môr a Gwastadeddau'r Rhyl, yn gweithio gyda CIC Abergele Wheelers i ddatblygu'r prosiect. Mynychodd seremoni agoriadol swyddogol y trac pwmp, a dywedodd:
“Mae hwn yn brosiect cyffrous ac yn ased i'r gymuned gyfan, ac yn un sy'n darparu mynediad am ddim i bobl gael hwyl a mwynhau cymryd rhan, neu ddim ond gwylio eraill yn arddangos eu sgiliau. Mae’n gosod Abergele yn gadarn ar y map”.