Urdd Gobaith Cymru
Prosiect Awyr Agored yn Cryfhau Hyder a Chydlyniad Pobl Ifanc Niwroamrywiol
Cynhaliwyd prosiect awyr agored llwyddiannus i gefnogi pobl ifanc niwroamrywiol a’r rhai sy’n profi anawsterau cymdeithasol neu addysgol, gyda’r nod o feithrin hyder, gwytnwch a sgiliau gwaith tîm.
Cymerodd 13 o bobl ifanc o ardal Prestatyn a Youth Shedz Cymru ran mewn cyfres o sesiynau awyr agored, gan gynnwys dringo, cerdded, beicio mynydd a gweithgareddau natur. Drwy greu amgylchedd diogel, cefnogol a derbyniol, llwyddodd y prosiect i feithrin ymddiriedaeth a chydlyniad cryf o fewn y grwpiau.
Uchafbwynt y rhaglen oedd y profiad preswyl yng Nglan-llyn Isa, lle bu’r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau megis padlfyrddio, cwrs rhaffau uchel a gweithgareddau cymdeithasol gyda’r nos. I lawer, dyma’r tro cyntaf iddynt aros oddi cartref neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath, gan arwain at gynnydd amlwg mewn hyder ac ymdeimlad o berthyn.
Dywedodd un rhiant:
“Dyma’r tro cyntaf i’n mab gael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath ochr yn ochr â’i gyfoedion. Roedd y profiad preswyl yn llawn atgofion cadarnhaol ac wedi cryfhau ei hyder a’i ymdeimlad o berthyn.”
Derbyniodd y prosiect £5,580 o gyllid gan Gronfa North Hoyle. Meddai Sion Lloyd, Rheolwr Gwasanaeth Awyr Agored:
“Mae’r gefnogaeth hon wedi agor drysau go iawn i bobl ifanc a oedd wedi colli ffydd mewn systemau traddodiadol – mae’n brofiad a fydd yn aros gyda nhw am byth.”