Dyfarnodd Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr £10,000 yn 2025 i gefnogi Gŵyl Môr-ladron Conwy. Roedd y digwyddiad yn ddathliad cymunedol o dreftadaeth hanesyddol a morwrol tref Conwy, gan gynnwys gemau a stondinau ar thema môr-ladron, perfformiadau cerddorol, a brwydr môr-ladron go iawn!

Dywedodd cynrychiolydd o Wyl Môr-ladron Conwy:

Ymhlith cymuned y môr-ladron ledled y DU, mae Gŵyl Môr-ladron Conwy yn cael ei hystyried fel yr orau ar gyfer teuluoedd a hwyl. I ni, mae hynny'n gamp fawr; does dim Gŵyl Môr-ladron arall fel yr un yma yn y DU i gyd. Yr hyn sydd gennym ni yn wahanol i bawb arall ydi lleoliad y Cei gyda'r castell yn gefndir, y frwydr môr-ladron gyda'r llong, a'r gemau... rydyn ni wrth ein bodd yn gallu rhannu ein digwyddiad gydag eraill, ac er mai hwn ydi’r digwyddiad mwyaf heriol yn gorfforol rydyn ni’n ei gynnal, rydyn ni’n ei wneud er mwyn gweld y wên ar wynebau'r plant a'r oedolion sy'n dod i’r ŵyl. I Gonwy, dyma un o'r digwyddiadau mwyaf – ac un o'r unig ddigwyddiadau – sy'n cael eu cynnal yn y dref. Mae pobl yn dod o bob cwr o'r byd i fynychu’r ŵyl; maen nhw'n ei mwynhau hi ac wedyn yn dychwelyd gan ddod â'u ffrindiau gyda nhw.

Conwy Pirates 1