Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
Ymunwch â ni am sesiwn hyfforddi AM DDIM ynglŷn â sut i reoli cyllid eich sefydliad. Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio ar gyfer gwirfoddolwyr cyllid (e.e., trysoryddion) a staff o sefydliadau gwirfoddol.
Ymunwch â ni am sesiwn hyfforddi AM DDIM ynglŷn â sut i reoli cyllid eich sefydliad. Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio ar gyfer gwirfoddolwyr cyllid (e.e., trysoryddion) a staff o sefydliadau gwirfoddol a'i nod yw eich helpu i:
- Ddeall beth yw cyllideb a sut i ddatblygu un
- Ddysgu defnyddio cyllidebau i gefnogi ceisiadau am gyllid
- Allu deall, cynllunio a datblygu rhagolygon llif arian
- Ddeall beth yw cyfrifon rheoli a pham eu bod yn ddefnyddiol
- Ddysgu sut i wneud penderfyniadau ariannol gwell ar gyfer y sefydliad
- Ddysgu sut i fonitro adnoddau
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol.
Mae'r sesiwn hon yn berffaith ar gyfer grwpiau sy'n gwneud cais am gyllid, gan y byddwn yn trafod sut i reoli cronfeydd cyfyngedig, mynd i'r afael â chyllidebau a ffrydiau cyllido lluosog, a chyllidebu ar gyfer costau cyffredinol a chostau cynyddol. Bydd y sesiwn hefyd yn trafod cyfrifoldebau ymddiriedolwyr wrth reoli cyllid.
Darperir cinio.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan Hone Financial.