Prev
Next

Gweinyddir y gronfa yn annibynnol gan Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC). Mae CGGC yn cyflogi rheolwr cronfa llawn amser, lleol. Gwneir y penderfyniadau am ddyrannu’r arian gan banel grantiau o bobl sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn yr ardal budd y gronfa.

Mae'r gronfa'n hyblyg iawn fel ei bod yn gallu diwallu gwahanol anghenion ac uchelgeisiau cymunedau ar draws yr ardal. Mae'n canolbwyntio ar y themâu canlynol:

  • Cymunedau Ffyniannus
  • Iechyd a Lles
  • Yr Economi
  • Cadwraeth a’r Amgylchedd
  • Digidol

Mae’r themâu yma yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol https://www.futuregenerations.wales/cy/about-us/future-generations-act/

Nod y wefan hon yw ateb eich cwestiynau chi am y gronfa, ond os oes gennych chi gwestiynau o hyd, cofiwch gysylltu â ni esylltadair@cvsc.org.uk neu 01492 523855 

I fynd i'r map rhyngweithiol cliciwch yma

map