Website banner template 2

Fferm Wynt Coedwig Clocaenog

Mae Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn brosiect fferm wynt ar y tir ac yn berchen i RWE. Fe'i hadeiladwyd ar dir a brydlesir gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan y prosiect 96MW, ger Dinbych 27 tyrbin gwynt yn y goedwig sydd hefo’r capasiti i gynhyrchu trydan i oddeutu 63,800 o dai yn y DU yn flynyddol1.

1 Mae ynni y rhagwelir y bydd yn cael ei gynhyrchu yn deillio o gyflymder gwynt a gaiff ei fonitro yn yr ardal leol ac ynhgyd â data tywydd hanesyddol gan ddefnyddio modelau meteoroleg gyda data a gafwyd o systemau mesur lloeren, ar yr arwyneb ac a gludir mewn awyren. Mae'r cyfrifiadau'n seiliedig ar gapasiti wedi'i osod o 96MW. Mae cartrefi cyfatebol a gyflenwir yn seiliedig ar ddefnydd blynyddol o drydan fesul cartref o 4100 kWh. Cefnogir y ffigur hwn gan ddata diweddar ar ddefnyddio trydan domestig sydd ar gael gan The Digest of UK Energy Statistics a ffigurau aelwydydd gan Awdurdod Ystadegau Gwladol y DU.


 

DJI 0003 7e06546c

Am y panel

Gwneir pob penderfyniad am ddyrannu’r cyllid gan banel o wirfoddolwyr lleol sy'n byw, yn gweithio neu'n gwirfoddoli yn ardal budd y gronfa.

Mae aelodau'r panel yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn fel arfer i ystyried ceisiadau.

Mae gan bob un wybodaeth, profiad ac empathi tuag at y trydydd sector a'r heriau sy'n gwynebu grwpiau a sefydliadau cymunedol. Er mwyn sicrhau dull "unedig" o ymdrin â phrosiectau a mentrau rhanbarthol, mae gennym gynrychiolydd o’r ddwy  Awdurdod Lleol (Conwy a Dinbych) a Cadwyn Clwyd ynghyd ag unigolion uchel eu parch a brwdfrydig sydd ag oes o sgiliau sector gwirfoddol a phrofiad ymarferol.

Am fwy o wybodaeth:

  • Aelodau’r Panel
     
  • Cylch Gorchwyl