Prev
Next

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ffrwd ariannu newydd, Cronfa Cefnogi Trechu Tlodi, sy’n disodli cyllid ‘Canolfannau Clyd’ ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27. I adeiladu ar waith y Canolfannau Clyd, mae CCGC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i gefnogi ‘Canolfannau Cefnogaeth Gymunedol’. Dylai’r canolfannau hyn wella gwydnwch cymunedau a darparu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gefnogaeth yn lleol. 

Fe all y canolfannau ddarparu lluniaeth ysgafn, byrbrydau a/neu brydau cymunedol, ond mae’n rhaid i’r holl ganolfannau cefnogaeth gymunedol ddarparu o leiaf un gweithgaredd atal tlodi ochr yn ochr â’r cynnig ehangach. Bydd ceisiadau sy’n cynnwys llwybrau atgyfeirio clir neu’n cyfeirio pobl at wasanaethau cefnogi fel rhan o’u darpariaeth yn cael mwy o ffafriaeth. 

Enghreifftiau o waith atal: 

  • Cymorth â chostau byw
  • Cyngor ar fudd-daliadau a gwneud y gorau o’ch incwm
  • Cefnogaeth cynhwysiant digidol
  • Gweithgareddau cyflogaeth a sgiliau
  • Cyngor ar dai
  • Cyngor ar ynni
  • Cefnogaeth gyda materion ariannol neu gyllidebu
  • Gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfeirio 

Gellir darparu’r elfennau hyn yn uniongyrchol drwy’ch sefydliad chi neu drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliad arall. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi derbyn £36,930 i ddarparu’r grant hwn yn Sir Conwy, gyda chyllid ychwanegol i gefnogi grwpiau mewn wardiau gwledig. 

Fel un o amodau’r cyllid, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch Cynghorwyr Tref / Cymuned a/neu’ch Cynghorwyr Sir am eich menter arfaethedig. Bydd hynny’n helpu i osgoi dyblygu ac yn annog cydweithio ac yn sicrhau bod preswylwyr yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael yn eu cymunedau. Mae rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt i’w cael yma: 

Democratiaeth Lleol Conwy: Cynghorau Tref a Chymuned

Democratiaeth Lleol Conwy: Eich Cynghorwyr

CC events pic
Ffurflen Gais
Ynnigwynt MAWR 1085
Canllawiau
CPD Ieuenctid Llanrwst
Enghreifftiau

 

Am ragor o wybodaeth neu i drafod cais, cysylltwch: 

01492 523845 / grants@cvsc.org.uk