Mae’r gwobrau, a sefydlwyd yn 2013, yn cydnabod unigolion a grwpiau cymunedol sydd ag amcanion elusennol ac sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol yn eu cymunedau. Dros y blynyddoedd mae gwirfoddolwyr a grwpiau di-ri wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion rhyfeddol.

Mae tair gwobr yn cael eu rhoi ar gyfer pob un o’r siroedd sy’n ffurfio’r hen Sir Clwyd: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam:

Dwy wobr am gyfraniad eithriadol gan unigolyn

Un wobr am gyfraniad eithriadol gan grŵp gwirfoddol neu gymunedol sydd ag amcanion elusennol

Mae posib lawrlwytho ffurflenni enwebu a nodiadau canllaw oddi ar wefan Cefnogaeth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC).

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau wedi'u llofnodi yw hanner dydd, ddydd Gwener 17 Ionawr 2025. Dylid anfon pob enwebiad, o bob un o’r siroedd, i Cefnogaeth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC) ar volunteering@cvsc.org.uk 

Bydd eu gwobrau yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr mewn seremoni gydnabod arbennig a fydd yn cael ei chynnal ddiwedd mis Mawrth 2025. 

Canllawiau a Ffurflen Enwebu

High Sheriff Coat of Arms
Bill eccles b O Gc Pl Pq Z M unsplash
High Sheriff of Clwyd Nomination Form 2025 CYM