Pwyllgor Adfer Cloc Rhuthun
Yn 2023 dyfarnwyd £7,100 i grwp adfer cloc Rhuthun.
Roedd y prosiect yma yn ymwneud a digwyddiadau cymunedol i addysgu'r gymuned leol am hanes y cloc yn ynghyd a'u haddysgu o sut y byddent yn mynd ati gyda phensaer cadwraeth i adfer y cloc. Roedd y gwaith o adfer y cloc yn rhan o brosiect mwy a ariannwyd trwy gyllidwyr eraill.
Cynhaliwyd hefyd sgyrsiau yn yr ysgolion lleol, arddangosfa cyhoeddus a llyfryn hanes am y cloc a'r prosiect adfer. Roedd y grwp wedi cysylltu gyda 500 o unigolion trwy gydol cyfnod y prosiect.
Dywedodd aelod o'r grwp:
"‘Galluogodd y prosiect y gymuned i gymryd rhan wirioneddol yn y prosiect mewn amrywiaeth eang o wahanol ffyrdd, a helpodd hynny, yn ei dro, y gwaith cyfalaf gan bobl leol ac ymwelwyr i wybod a deall beth oedd yn cael ei wneud a pham. Ni allem fod wedi gwneud hyn heb y grant gan Gronfa Fferm Wynt Clocaenog.’"
Roedd y cynllun yma hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc y cheched dosbarth i gysylltu gyda'r pensaer cadwraeth, i weld sut fath o swydd ydoedd os oeddent yn ystyried mynd i'r maes yn y dyfodol.




