Clwb Bocsio Amatur Ieuenctid y Rhyl CIC
Mae Clwb Bocsio Amatur Ieuenctid y Rhyl CIC, wedi gwella ei gyfleusterau hyfforddi yn dilyn buddsoddiad o £23,759.20 gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr. Defnyddiwyd y grant i brynu offer newydd ar gyfer yr Ystafelloedd Cryfder a Cardio.
Ar hyn o bryd mae'r clwb yn cefnogi 15 o aelodau cystadleuol cofrestredig o dan Gymdeithas Bocsio Amatur Cymru (WABA).
Ers prynu'r offer cardio a pwysau newydd, mae'r clwb wedi gweld gwelliannau amlwg mewn cryfder a ffitrwydd ar gyfer ei focswyr WABA.
Arweiniodd y cyfleusterau gwell at dri bocsiwr newydd yn gallu cystadlu o dan y WABA, ac mae'r clwb yn gobeithio cael mwy o focswyr i'r WABA hwyrach yn y flwyddyn.
Nid yn unig y cafodd y cyllid effaith gadarnhaol ar ragolygon bocsio cystadleuol i bobl leol. Defnyddiwyd yr ardaloedd hyfforddi cardio a chryfder newydd hefyd ar gyfer sesiynau 'Cadw'n Heini', a oedd yn canolbwyntio ar reoli pwysau, tonio, a ffitrwydd cyffredinol.
Mae'r clwb wedi sylwi ar gynnydd yn ei aelodaeth fenywaidd oherwydd y dull newydd hwn, gan gynnwys chwaraewyr o dîm dan 13 oed Clwb Rygbi'r Rhyl. Mae hyn yn caniatáu i'r clwb ehangu ei gynnig i'r gymuned, a pheidio â bod yn gyfleuster hyfforddi bocsio 'yn unig'
Mae'r clwb wedi gallu gwneud effaith ar grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, drwy weithio gyda chynllun atal digartrefedd Cyngor Sir Dinbych, yn ogystal â Phrosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl a Phrosiect RISE y Rhyl.
Cafodd eu gwaith gyda'r cynllun atal digartrefedd ei arddangos yn ddiweddar ar Newyddion Cymru ITV. Nôd y clwb yw parhau i adeiladu partneriaethau cymunedol dros y misoedd nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb “Hyd yn oed mewn cyfnod mor fyr, mae'r gwahaniaeth y mae'r cyfleusterau newydd wedi'i ddarparu wedi bod yn anhygoel… mae wedi bod yn llawer gwell na'r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl ac y gallem fod wedi dymuno amdano ac rwy'n siŵr y bydd y niferoedd a roddir uchod yn well eto ar ôl 6 mis arall”
Am ragor o wybodaeth am glwb Bocsio Ieuenctid y Rhyl ewch i'w gwefan Facebook