Cylch Meithrin Rhuthun
Arddangosfa Gelf, Incwm Newydd a Chymraeg! 🎨
Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cefnogi Cylch Meithrin Rhuthun gyda grant o £7,216.34 o Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog i gynnal eu prosiect 'Gweithdai Celf yn yr Awyr Agored'. Roedd y prosiect yn llwyddiant ysgubol!
Yn gyntaf, fe wnaeth y gweithdai greu ffrwd incwm newydd hanfodol i'r Cylch dros wyliau'r haf. Mae hyn yn helpu i dalu rhent drwy gydol y flwyddyn, er mai dim ond yn ystod tymor yr ysgol maen nhw'n cynnig gofal plant.
Yn ail, cafodd y prosiect effaith gadarnhaol iawn ar yr iaith Gymraeg. Cynhaliwyd y gweithdai celf yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. Roedd hyd yn oed rhieni di-Gymraeg yn awyddus i'w plant fynychu fel cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg yn ystod gwyliau'r ysgol.
Yn drydydd, fe wnaethant recriwtio tair gwirfoddolwr newydd – mwy na'r disgwyl , a'r nifer uchaf mewn tair blynedd! Yn ôl y Cylch, roedd hwn yn brosiect "anyhygoel" a helpodd i godi eu proffil yn y gymuned. Mae'r murluniau parhaol bellach yn trawsnewid yr adeilad ac yn destun sgwrs i nifer!