Gan wasanaethu poblogaeth o tua 850 o drigolion, mae Neuadd Goffa Trelawnyd yn cael ei rhedeg gan gymdeithas ymroddedig dan arweiniad gwirfoddolwyr, gyda chefnogaeth un gofalwr rhan-amser. Cyn derbyn y cyllid gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr, roedd angen gwaith adnewyddu ar y neuadd i ddiogelu’r adeilad rhag difrod gan ddŵr a thywydd, ynghyd â gwelliannau i’r tu mewn.

Cyfrannodd y cyllid at welliannau hanfodol, gan gynnwys atgyweirio’r to, gosod gwteri a ffelt newydd, adnewyddu a phaentio’r ffenestri, gosod gwydr eilaidd mewnol, a gosod llenni gwrth-dân.

Caeodd y neuadd tra oedd y gwelliannau hyn yn cael eu cyflawni. Ers ailagor, mae’r grwpiau a oedd eisoes yn defnyddio’r neuadd wedi dychwelyd at eu gweithgareddau. Mae’r côr a’r clwb bowlio dan do bellach yn cynnal cyfarfodydd wythnosol. Mae Cymdeithas Gymunedol Trelawnyd hefyd wedi ailddechrau ei boreau coffi a’i sesiynau Canolfan Gynnes ar gyfer y gymuned leol. Mae grwpiau newydd hefyd wedi dechrau defnyddio’r gofod, gan gynnwys grŵp drama gyda dros 20 o aelodau. Mae’r gymdeithas hefyd yn bwriadu cychwyn sesiynau ioga cadair ar gyfer y gymuned.

Ers y gwelliannau i’r neuadd, mae nifer y llogi preifat wedi cynyddu: cynhaliwyd 7 digwyddiad preifat ers ailagor. Bydd y llogi preifat hyn yn cynhyrchu incwm i’r Gymdeithas Gymunedol ac yn helpu i wneud y neuadd yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Mae Cam 1 o’r gwaith adnewyddu bellach wedi’i gwblhau, ac mae’r grŵp yn anelu at sicrhau cyllid pellach i dalu am ragor o welliannau. Dywedodd cynrychiolydd o Gymdeithas Gymunedol Trelawnyd: “Mae ymddangosiad y neuadd wedi newid er gwell, sydd wedi rhoi hwb cadarnhaol i ddefnyddwyr a gwirfoddolwyr. Mae’r adeilad rhestredig hwn yn ganolog i hanes a diwylliant y pentref bach hwn ac mae ei wedd newydd yn gamp i gymuned fach. Byddai hyn wedi bod yn amhosibl heb gefnogaeth Gwynt y Môr, a wnaeth hefyd ein galluogi i ddenu cyllidwyr eraill. Byddai codi dros £60,000 yn dasg frawychus heb eich cymorth.”

Building Works