Ymaelodu

Yn awyddus i ddod yn aelod o Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC)?

Mae CGGC yn parhau i fod yma i'ch cefnogi chi a'ch sefydliad. Er mwyn gwneud hynny yn llawn, bydd CGGC unwaith eto yn hepgor ein ffioedd aelodaeth ar gyfer 2023/24 i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn ein gwybodaeth aelodaeth blaenoriaeth, ein canllawiau a'n cyfleoedd cyllido mewn modd di-dor.

Byddwn felly’n cario eich aelodaeth drosodd, ond rydym yn gofyn i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau neu diwygiadau i'ch sefydliad neu gwybodaeth cyswllt – fel bod y person cywir wedyn yn gallu rhaeadru’r wybodaeth yn briodol – ac fel ein bod yn gallu parhau i gydweithio a chefnogi defnyddwyr ein gwasanaeth hyd eithaf ein gallu.

Mae manteision dod yn aelod yn cynnwys y gwasanaethau canlynol AM DDIM:

  • Blaenoriaethu Gwasanaeth Gwybodaeth Ariannu, gan gynnwys ymgysylltu 1 i 1 â chyllidwyr.
  • Mynediad am ddim at gronfa ddata unigryw, gynhwysfawr.
  • Hysbysebu eich holl ddigwyddiadau a swyddi gwag drwy ein systemau cyfryngau cymdeithasol
  • Adnoddau sy'n gallu cefnogi eich gweithgareddau.
  • Mynediad at gyrsiau hyfforddi o safon.
  • Cylchgronau ac e-fwletinau rheolaidd.
  • Gwahoddiad i gyfarfod cyffredinol CGGC a hawliau pleidleisio.
  • Mynediad at rwydweithiau CGGC.  Cyfle i chi ymgysylltu â chydweithwyr mewn sefydliadau yn y trydydd sector, a dylanwadu ar gyrff statudol a chraffu ar wasanaethau cyhoeddus.
  • Cymorth i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr
  • Adolygu eich dogfennau a'ch polisïau llywodraethu (ar gais)

Cliciwch yma i Ymaelodi neu Adnewyddu 

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397