Cadw gwasanaethau lleol ar agor
“Betty ydw i, ac rwy’n un ymhlith mwy na 130 o aelodau yng Nghanolfan Trinity yn Llandudno - ac mae bob un ohonom dros 50 oed. Mae gan rai pobl ddementia neu maen nhw wedi cael strôc, neu does ganddyn nhw ddim teulu neu help yn y cartref. Rydym yn chwarae gemau, yn sgwrsio ac yn cael lot fawr o hwyl. Ac rydym yn derbyn gofal ac yn cael prydau bwyd blasus, sy’n braf iawn!
Yn sgil toriadau ariannol roedd perygl i ni golli’r Ganolfan, felly ni allai’r £9,999 arian gan Gronfa Gymunedol Gwynt y Môr fod wedi cyrraedd ar adeg well. Diolch i’r arian, bu’n bosib iddynt barhau i dalu’r staff, sy’n werth y byd. Maen nhw hyd yn oed wedi cyflogi ysgrifenyddes a chogydd newydd - braf ydy gweld y ganolfan yn ffynnu.
Rydym wedi sefydlu cymuned glòs iawn, fyddwn i ddim wedi gallu ymdopi heb y ganolfan pan gollais fy ngwˆr, rwyf wedi gwneud gymaint o ffrindiau yma, mae wedi bod yn help llaw cwbl hanfodol.”
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG