GWIRFODDOLI IEUENCTID
Mae gwirfoddoli'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, a bod yn rhan bwysig ohoni. Ond mae hefyd yn ymwneud â'r hyn y gallwch chi ei gael o'r profiad.
Mae pobl ifanc yn gwirfoddoli am wahanol resymau:
Nid dim ond cwblhau’r dasg yw’r nod, yn aml mae’n cynnwys llawer o hwyl hefyd!
Rydyn ni’n sicrhau bod cyfleoedd o safon uchel ar gael, fel eich bod chi, fel gwirfoddolwr ifanc, yn cael y gorau o’ch profiad!
Gall pobl ifanc gynnig llawer o dalentau, sgiliau ac egni i’ch sefydliad. Gallwn roi cefnogaeth ac arweiniad i chi ar y ffordd orau o weithio gyda phobl ifanc fel gwirfoddolwyr, a’u cadw.
Gellir gwneud cyflwyniadau anffurfiol (rhithwir i gyd ar hyn o bryd) i Ysgolion, Clybiau Ieuenctid, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Colegau, Gyrfa Cymru ac unrhyw sefydliadau ieuenctid a fyddai’n hoffi cael mwy o wybodaeth am Ieuenctid yn Gwirfoddoli.
Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG