Clwb Pêl Droed Llannefydd

Ym mis Ebrill 2022, dyfarnwyd £8400.00 i Glwb Pêl Droed Llannefydd gan Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog i ehangu ei gae chwarae. Roedd angen y gwaith hwn gan y byddai cae chwarae mwy yn galluogi i'r clwb fodloni rhai o'r meini prawf sydd eu hangen i gael trwydded Haen 3 CBDC.

Mae Clwb Pêl Droed Llannefydd yn glwb pêl droed cymunedol sy’n cynnig cyfleusterau sy’n caniatáu ar gyfer cyfranogiad mawr mewn pêl droed, gan arwain at gymuned wledig fwy cydlynol. Mae hyn yn cynnwys tîm merched llwyddiannus, timau iau, a thîm pêl droed hŷn. Byddai trwydded Haen 3 CBDC yn galluogi i'r clwb ehangu ei gyfranogiad ymhellach oherwydd heb y drwydded, byddai'n rhaid i bobl leol chwarae i glwb y tu allan i'w cymuned i gystadlu ar lefel uwch.

Mae'r meini prawf ar gyfer cymhwyster Haen 3 CBDC yn helaeth. Roedd y grant gan Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn galluogi’r clwb i fodloni un o’r meini prawf mwyaf heriol, sef maint y cae. Mae'r clwb bellach ar ei ffordd i sicrhau’r drwydded ac, ers hynny, mae wedi sicrhau cefnogaeth bellach i brynu stand ar gyfer y cae.

Yn dilyn ehangu’r cae pêl droed, mae Clwb Pêl Droed Llannefydd wedi parhau i gymryd rhan mewn pêl droed ar gyfer y gymuned leol. Denodd un gêm yn erbyn Llansannan dorf o bron i 250 o bobl! Mae’r timau merched, iau a hŷn wedi parhau i ddefnyddio’r cae, yn ogystal â thîm merched dan 15 arall o Henllan, cymuned gyfagos. Mae’r cae bellach yn cael ei ddefnyddio gan dimau ieuenctid merched a bechgyn.

Dywedodd cynrychiolydd o’r clwb:

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael fel clwb gan Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog wedi bod yn allweddol wrth yrru’r clwb yn ei flaen. Mae gallu gwneud y gwaith cychwynnol yma wedi creu momentwm gwirioneddol i ni fel clwb. Mae aelodaeth y pwyllgor wedi tyfu ac mae cyffro gwirioneddol yn y pentref am yr hyn sy'n bosibl. Mae gennym ni brosiect neu ddau ychwanegol ar y gweill ar hyn o bryd ond mae cael pentref gwledig fel Llannefydd i allu gwella ei gyfleusterau yn y fath fodd mor bwysig i’r gymuned gyfan. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar.”

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397