Neuadd Bentref Trefnant

Ym mis Rhagfyr 2021 derbyniodd Neuadd Bentref Trefnant £15,822.00 tuag at ehangu eu system paneli Solar presennol gyda 15 o baneli solar newydd ac ychwanegu system storio batri Tesla Powerwall.

Bwriad y prosiect ynni gwyrdd hwn oedd cadw costau llogi’r neuadd i lawr i ddefnyddwyr drwy sicrhau y gallai’r neuadd arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae’r pwyllgor wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i ddatblygu’r neuadd bentref, ac mae’r neuadd yn llawn 5 diwrnod yr wythnos gyda phartïon plant wedi’u harchebu ar benwythnosau. Mae'r archebion penwythnos ar gyfer partïon wedi dechrau cynyddu eto nawr ers y pandemig ac mae'r neuadd yn ffynnu ac wedi'i harchebu'n llawn bob dydd.

Trwy osod 15 o baneli solar a batri mae’r neuadd eisoes wedi gweld gwahaniaeth mewn arbedion a hyd at ddiwedd 2022 wedi dangos enillion o £1,325 ers ei gosod. Mae hyn wedi golygu nad ydynt wedi gorfod cynyddu’r costau llogi ar gyfer eu defnyddwyr, sy’n help mawr i’r gymuned gyfan.

Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
7 Rhiw Rd, Bae Colwyn LL29 7TG

  • Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3867751
  • Rhif Elusen Cofrestredig: 1151397